La Habana
Prifddinas Ciwba yw La Habana (enw llawn San Cristóbal de La Habana (Saesneg: Havana)). Hi yw'r ddinas fwyaf ar yr ynys, gyda phoblogaeth o 2.2 miliwn.
Math | dinas, y ddinas fwyaf |
---|---|
Poblogaeth | 2,141,652, 2,492,618, 2,089,532 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Marta Hernández Romero, Reinaldo García Zapata |
Cylchfa amser | UTC−05:00 |
Gefeilldref/i | Minsk, Isfahan, Tijuana, Cádiz, Glasgow, Istanbul, Madrid, Barcelona, Mar del Plata, Sullana, São Paulo, St Petersburg, Manila, Dinas Mecsico, Athen, Tehran, Windhoek, Toledo, Rio de Janeiro, Sevilla, Xixón, Rotterdam, Santo Domingo, Constanța, Mobile, Sintra, Cuzco, La Paz, İzmir, Kyiv, Beijing, São Bernardo do Campo |
Nawddsant | Cristoffer |
Daearyddiaeth | |
Sir | Talaith La Habana |
Gwlad | Ciwba |
Arwynebedd | 728.26 km² |
Uwch y môr | 59 ±1 metr |
Gerllaw | Gwlff Mecsico, Afon Almendares |
Cyfesurynnau | 23.1367°N 82.3589°W |
Cod post | 10000–19999 |
Pennaeth y Llywodraeth | Marta Hernández Romero, Reinaldo García Zapata |
Yn 1515, sefydlodd y Sbaenwr Diego Velázquez de Cuéllar ddinas dan yr enw La Habana yn ne-ddwyrain yr ynys. Bedair blynedd yn ddiweddarach, symudwyd y ddinas i'w lleoliad presennol, ac yn 1607 daeth yn brifddinas yr ynys. Datblygodd i fod yn borthladd pwysicaf Sbaen yn y Byd Newydd.
Mae rhan hynaf o'r ddinas wedi ei dynodi gan UNESCO fel Safle Treftadaeth y Byd oherwydd y nifer fawr o hen adeiladau.