Lao (iaith)
Lao neu Laoseg (ພາສາລາວ phaasaa laao) yw iaith sywddogol gwlad Laos. Iaith donog ydyw sy'n perthyn i'r teulu Tai o ieithoedd. Mae'n perthyn mor agos i iaith Isaan gogledd Gwlad Tai fel bod y ddwy weithiau'n cael eu dosbarthu fel amrywiadau ar yr un iaith.
Math o gyfrwng | iaith, iaith fyw |
---|---|
Math | Southwestern Tai |
Label brodorol | ລາວ |
Enw brodorol | ພາສາລາວ |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | lo |
cod ISO 639-2 | lao |
cod ISO 639-3 | lao |
Gwladwriaeth | Cambodia, Laos |
System ysgrifennu | Lao |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae gwyddor yr iaith Lao yn "abugida" (cyfundrefn ysgrifennu o arwyddion gwahanol sy'n dynodi cytseiniaid gyda llafariad dilynol cynhenid) ac mae'n perthyn i'r ffordd Thai o ysgrifennu er nad yw'r ddwy gyfundrefn yr un fath.
Gellir rhannu'r iaith Lao i bum tafodiaith wahanol:
- Lao Vientiane (y brifddinas)
- Lao y Gogledd (Luang Prabang)
- Lao y Gogledd-ddwyrain (Xieng Khouang)
- Lao y Canolbarth (Khammouan)
- Lao y De (Champasak)
Y fersiwn a siaredir yn y brifddinas Vientiane yw'r dafodiaith uwch ei bri gan ei bod yn cael ei defnyddio yn y cyfryngau ac fe'i dëelir trwy Laos ac ar y cyfan mae'r tafodieithoedd, er gwaethaf y gwahaniaethau rhyngddynt yn weddol ddealladwy i bawb hefyd.