Limoges
Dinas yng ngorllewin canolbarth Ffrainc yw Limoges (Occitaneg: Lemòtges). Hi yw prifddinas département Haute-Vienne a région Limousin. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 136,539, a phoblogaeth yr ardal ddinesig yn 248,000.
Math | cymuned, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 129,760 |
Pennaeth llywodraeth | Alain Rodet, Émile Roger Lombertie |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2, CET |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Haute-Vienne |
Gwlad | Ffrainc |
Arwynebedd | 78.03 km² |
Uwch y môr | 294 metr, 209 metr, 431 metr |
Gerllaw | Afon Vienne |
Yn ffinio gyda | Bonnac-la-Côte, Chaptelat, Condat-sur-Vienne, Couzeix, Feytiat, Isle, Le Palais-sur-Vienne, Panazol, Rilhac-Rancon, Saint-Gence, Solignac, Verneuil-sur-Vienne, Le Vigen |
Cyfesurynnau | 45.8344°N 1.2617°E |
Cod post | 87000, 87280, 87100 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Limoges |
Pennaeth y Llywodraeth | Alain Rodet, Émile Roger Lombertie |
Saif tua 220 km i'r gogledd-ddwyrain o Bordeaux, a 290 km i'r gogledd o Toulouse. Mae afon Vienne yn llifo trwy'r ddinas. Oherwydd ei phwysigrwydd hanesyddol i undebau llafur, fe'i gelwir weithiau la ville rouge ("y ddinas goch").
Hanes
golyguSefydlwyd y ddinas gan yr ymerawdwr Rhufeinig Augustus tua 10 CC, dan yr enw Augustoritum. Datblygodd yn ddinas bwysig, gydag adeiladau mawr, ond ar ddechrau'r 4g gadwodd y rhan fwyaf o'r trigolion y ddinas. Adferwyd hi gan Sant Martial, a drôdd yr ardal at Gristnogaeth a dod yn Esgob cyntaf Limoges. Daeth Abaty Limoges yn annibynnol ar yr esgob yn y 9g, a datblygodd i fod yr ail yn Ffrainc o ran maint, ar ôl Cluny. Roedd yn enwog am ei lyfrgell.
Pobl o Limoges
golygu- Marie François Sadi Carnot (1837-1894), Arlywydd Ffrainc
- Pierre-Auguste Renoir (1841-1919), arlunydd