Llangynfelyn

pentref yng Nghymru
(Ailgyfeiriad o Llancynfelyn)

Pentref, plwyf a chymuned yng ngogledd Ceredigion yw Llangynfelyn, weithiau Llancynfelyn. Saif i'r gogledd-ddwyrain o'r Borth ar y ffordd B4353, fymryn i'r de o aber Afon Dyfi a Chors Fochno.

Llangynfelyn
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth587, 582 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd2,302.7 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.5139°N 3.9836°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000385 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruElin Jones (Plaid Cymru)
AS/au y DUBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentrefi Tre'r-ddôl a Thre Taliesin. Ar aber Afon Dyfi mae Traeth Maelgwn neu Traeth Maelgwyn; yma yn ôl traddodiad y dewiswyd Maelgwn Gwynedd yn brif frenin Cymru. Roedd y bardd Deio ab Ieuan Du yn frodor o'r plwyf.

Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 641.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llangynfelyn (pob oed) (587)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llangynfelyn) (274)
  
48.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llangynfelyn) (302)
  
51.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llangynfelyn) (81)
  
31.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]
  NODES
os 10