Llanilar

pentref yng Ngheredigion

Tref fechan yng Ngheredigion yw Llanilar, sy'n gorwedd ar yr A485 tua 4 milltir i'r de-ddwyrain o Aberystwyth. Roedd ganddi 1085 o drigolion, a 60% ohonynt yn siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2001).[1]

Llanilar
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,085, 1,096 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd2,828.02 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.35°N 4.02°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000386 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruElin Jones (Plaid Cymru)
AS/au y DUBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Mae Afon Ystwyth yn rhedeg heibio i'r pentref. Ar y bryn gerllaw ceir castell mwnt a beili a godwyd gan y Normaniaid.

Saif Ysgol Gynradd Llanilar, swyddfa bost, meddygfa a garej yn y pentref. Sefydlwyd Sioe Llanilar ym 1903, a chynhelir y sioe amaethyddol hon bob blwyddyn yn gynnar ym mis Awst.

Mae'r cyflwynydd teledu adnabyddus Dai Jones yn byw ac yn ffermio yn Llanilar.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[3]

Eglwys Sant Ilar

golygu
 
Maen Harri.

Yng nghanol y pentref saif Eglwys Sant Ilar, unig eglwys Sant Ilar.[4] Fe'i cofrestrwyd gan Cadw yn Ionawr 1964 ar Radd II* oherwydd ei bod yn dyddio o'r Oesoedd Canol a bod ei tho pren, cerfiedig, yn nodedig iawn. Ceir maen y tu allan i'r eglwys, bellach yn rhan o'r wal, lle dywedir i Harri Tudur farchogaeth ei geffyl, ar ei daith drwy ogledd a chanolbarth Cymru i fyny at Machynlleth, cyn troi i'r dwyrain tuag at Maes Bosworth.

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanilar (pob oed) (1,085)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanilar) (625)
  
59.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanilar) (714)
  
65.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llanilar) (122)
  
28.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Community population 2011". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-08. Cyrchwyd 13 Mai 2015.
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd 9 Mai 2016.
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]

Dolenni allanol

golygu
  NODES
Community 1
mac 1
os 12