Llys Hawliau Dynol Ewrop
Lleolir Llys Hawliau Dynol Ewrop (enw Ffrangeg swyddogol: Cour européenne des droits de l'homme; enw Saesneg swyddogol: European Court of Human Rights) yn Strasbourg, Ffrainc. Mae'n gorff cyfreithiol rhyngwladol sy'n deillio o Gonfensiwn Hawliau Dynol Ewrop (1950). Ei orchwyl statudol yw monitro hawliau dynol yn aelod-wladwriaethu'r Undeb Ewropeaidd. Mabwysiadwyd y Confensiwn gan Gyngor Ewrop ac mae pob un o'r 47 aelod-wladwriaethau yn gorfod ei dderbyn. Ceiff achosion yn erbyn yr aelodau hyn am dorri hawliau dynol gael eu dwyn i'r llys gan wladwriaethau, cyfundrefnau eraill neu unigolion.
Math o gyfrwng | llys rhyngwladol |
---|---|
Label brodorol | European Court of Human Rights |
Dechrau/Sefydlu | 20 Ebrill 1959 |
Pennaeth y sefydliad | President of the European Court of Human Rights |
Sylfaenydd | European Convention on Human Rights |
Rhiant sefydliad | Cyngor Ewrop |
Pencadlys | Strasbwrg |
Enw brodorol | European Court of Human Rights |
Rhanbarth | Strasbwrg |
Gwefan | https://www.echr.coe.int |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sefydlwyd y Llys fel endid parhaol gyda barnwyr llawn-amser ar 1 Tachwedd 1998. Ceir 47 barnwr o'r 47 aelod-wladwriaeth.
Gweler hefyd
golyguDolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol (Ffrangeg) (Saesneg)