Mae Pawb yn Cyfrif
Cyfrol am fathemateg gan Gareth Ffowc Roberts yw Mae Pawb yn Cyfrif: Stori Ryfeddol y Cymry a'u Rhifau. Gwasg Gomer a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2012. Yn 2013 roedd y gyfrol yn cael ei ystyried i'w hadargraffu.[1]
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Awdur | Gareth Ffowc Roberts |
Cyhoeddwr | Gwasg Gomer |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 14 Awst 2012 |
Pwnc | Astudiaethau Llenyddol |
Argaeledd | yn cael ei ystyried i'w adargraffu |
ISBN | 9781848515116 |
Tudalennau | 182 |
Genre | Barddoniaeth |
Yn ôl Alun Morris,
Mae digonedd yn y gyfrol a ddylai fod at ddant pawb hefyd, megis ein ffordd o gyfrif yn ugeiniol yn Gymraeg, dull sydd bron yn unigryw; y rheidrwydd o ddefnyddio’r ffurf ddegol os am wneud ein symiau drwy’r Gymraeg; hanes ein cyd-Gymry yn y Wladfa a oedd yn llawer mwy blaengar na ni wrth ddysgu rhifyddeg drwy’r Gymraeg, trwy waith arloesol R. J. Berwyn; palindromau a phatrymau eraill ymysg rhifau; hanes yr anhygoel Ramanujan o’r India a’i ddarganfyddiadau pellgyrhaeddol mewn mathemateg ac yntau heb addysg brifysgol; a mathemateg y Maiaid. Dyna rai o’r pynciau, a'r cyfan wedi'i gyflwyno yn fywiog a syml.
Dywed hefyd,
Dyma ddarllen hawdd. Mae arddull fyrlymus a bywiog yr awdur yn hwyluso hynny. A gafwyd llyfr ar fathemateg y gellid ei ddarllen ar un eisteddiad erioed o'r blaen? Go brin; dyma lyfr hynod afaelgar.
Disgrifiad byr
golyguCyfrol ddiddorol am fathemateg i'r lleygwr yw hon, ond mae hi hefyd yn gyfrol am bobl a'u perthynas â rhifau.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013