Oes Ganol y Cerrig

(Ailgyfeiriad o Mesolithig)
Cyfnodau cynhanes
H   La Tène   Rhaghanes
  Hallstatt
Oes yr Haearn
  Oes ddiweddar yr Efydd  
  Oes ganol yr Efydd
  Oes gynnar yr Efydd
Oes yr Efydd
    Chalcolithig    
  Neolithig Cynhanes
Mesolithig
P     Paleolithig Uchaf  
    Paleolithig Canol
    Paleolithig Isaf
  Hen Oes y Cerrig
Oes y Cerrig

Oes Ganol y Cerrig neu'r Mesolithig yw'r cyfnod yn Oes y Cerrig sy'n gorwedd rhwng Hen Oes y Cerrig ac Oes Newydd y Cerrig. Fel rheol cyfyngir y defnydd o'r term i gynhanes gogledd a gorllewin Ewrop; yma mae'r oes neolithig yn cychwyn gyda chyfnod o hinsawdd cynnes yr Holosen tua 11,660 CP ac yn diweddu gyda dyfodiad ffermio - tua 4,000 CP. Yn Oes Ganol y Cerrig newidiwyd llawer o'r tirwedd gan yr heliwr-gasglwr gan, er enghraifft glirio coed. Roedd y dyn yma'n medru cynnau tân a defnyddio offer carreg, pren ac asgwrn fwy cywrain na chynt (e.e. microlithau) ac yn bennaf yn medru cyfathrebu a'i gilydd.

Prif erthygl: Oes Ganol y Cerrig yng Nghymru

Mae'r dystiolaeth cyntaf o fywyd yn yr oes hon yng Nghymru i'w chanfod yn Nab's Head ym Mhenfro sy'n dyddio'n ôl i 9,200 CP.[1] wedi 10,000 CP cynhesodd yr hinsawdd gryn dipyn a gwelwyd lawer o goed bedw, meryw (juniper) a phinwydd; ceir tystiolaeth fod y gollen yn ymddangos ym Mhrydain tua 8,200 CP. Eryn 4,500 CP tyfai'r dderwen, llwyfen, y wernen a'r onnen.

Tua 7,000 o fewn cyfnod o 200 mlynedd cododd lefel y môr 7 metr, gan foddi llawer o'r tiroedd gwastad, a llawer o dystiolaeth o fywyd, gan gynnwys Bae Ceredigion ac i'r gogledd o Rhyl. Roedd y tymeredd, bellach, yn gynhesach ac yn wlypach; mae'r ffaith fod cynifer o goed gwern yma'n dystiolaeth o hyn.

 
Bwyell law; Amgueddfa Wrecsam

Yng Ngogledd Cymru ceir nifer o olion o'r cyfnod hwn gan gynnwys: matog carw 38 cm o hyd a ganfyddwyd yn Splash Point, y Rhyl ac a garbon-ddyddiwyd i 7,000 CP. O bwys hefyd y mae'r ddau ficrolith (13mm) a ganfyddwyd yn Ogof y Lyncs, Eryrys a safleoedd megis Llyn Aled Isaf a Llyn Brenig, Moel Arthur a Phrestatyn. Yn y Maerdy, ger y Rhondda, cafwyd hyd i ddarn o bren a gerfiwyd gyda llinellau igam ogam ac ofal arno a ddyddiwyd i 6,000 CP. Mae'r darn pren yn mesur 1.7 metr ac wedi'i biclo ers hynny mewn mawnog ac ystyrir ef yn un o'r darnau celf cynharaf drwy Ewrop. Mae'n bosib mai postyn i nodi ffin ydoedd. Cafwyd hyd i farciau tebyg ar garreg yn Gavrinis, Llydaw ac ym Marclodiad y Gawres, Ynys Môn.[2]

Safleoedd Mesolithig

golygu

Mae rhai o'r safleoedd, diwylliannau ac arteffactau Mesolithig mwyaf nodedig yn cynnwys:

Claddiad Mesolithig o Theviec, yn Amgueddfa Toulouse

golygu

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Discovering a Welsh Landscape gan Ian Brown; Windgather Press; 2004; tud. 27
  2. archaeology.co.uk; adalwyd 13 Mai 2016.
  NODES
os 6
swift 1