Awdur plant o Loegr oedd Michael Bond CBE, (13 Ionawr 192627 Mehefin 2017). Ef greodd Paddington Bear, ac ysgrifennodd hefyd am anturiaethau mochyn cwta o'r enw Olga da Polga. Roedd Bond hefyd yn ysgrifennu straeon dirgelwch coginiol ar gyfer oedolion; y prif gymeriad ydy Monsieur Pamplemousse a'i gwaetgi ffyddlon, Pommes Frites.

Michael Bond
Ganwyd13 Ionawr 1926 Edit this on Wikidata
Newbury Edit this on Wikidata
Bu farw27 Mehefin 2017 Edit this on Wikidata
Llundain, Paddington Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Elvian School Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor, awdur plant, sgriptiwr, hunangofiannydd, gweithredydd camera, sinematograffydd, sefydlydd mudiad neu sefydliad Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Essel Group
  • Zee Entertainment Enterprises
  • BBC Edit this on Wikidata
Adnabyddus amPaddington Bear Edit this on Wikidata
PerthnasauKate Garraway Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE, CBE Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

golygu

Fe'i ganwyd yn Newbury, Berkshire. Addysgwyd Bond yn Presentation College, ysgol Gatholig yn Reading. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gwasanaethodd yn yr RAF a Chatrawd Middlesex o'r Fyddin Brydeinig.

Dechreuodd ysgrifennu yn 1945, a gwerthodd ei stori fer gyntaf i gylchgrawn London Opinion. Yn 1958, ar ôl cynhyrchu nifer o ddramau a straeon byrion tra'n gweithio i'r BBC fel dyn camera teledu (gweithiodd ar raglen Blue Peter am gyfnod), cyhoeddwyd ei lyfr cyntaf A Bear Called Paddington. Erbyn 1967 roedd yn gallu rhoi'r gorau i'w swydd yn y BBC er mwyn dod yn awdur llawn amser. Mae anturiaethau Paddington wedi eu cyhoeddi mewn bron i ugain gwlad, mewn deugain iaith.

Bywyd personol

golygu

Roedd Bond yn briod gyda dau o blant a pedwar ŵyr. Roedd yn byw yn Llundain, ddim yn bell o Orsaf Paddington. Mae'r arth a greodd wedi ysbrydoli bandiau pop, ceffylau rasio, dramau, balwnau awyr a chyfres deledu.

Yn 1997, anrhydeddwyd Bond gyda OBE am ei wasanaethau i lenyddiaeth plant.

Ar 6 Gorffennaf 2007, gafodd Radd Anrhydedd Doctor of Letters gan Brifysgol Reading.

Llyfrau

golygu
  • 1958 A Bear Called Paddington ISBN 0-618-15071-4
  • 1959 More About Paddington
  • 1960 Paddington Helps Out
  • 1971 Michael Bond's Book of Bears
  • 1971 Olga da Polga
  • 1972 The Day the Animals Went on Strike
  • 1972 Paddington's Garden
  • 2000 Paddington Abroad
  • 2000 Paddington Marches On
  • 2000 Paddington at Work
  NODES
camera 2
chat 1
os 1