Mici Plwm

Actor a digrifwr o Gymro a aned yn 1944

Actor a digrifwr o Gymro yw Mici Plwm (ganwyd 12 Mehefin 1944).[1] Mae'n fwyaf adnabyddus am arloesi gyda disgos Cymraeg yn y 1960au a chwarae y cymeriad hoffus 'Plwmsan' ers y 1970au hwyr.

Mici Plwm
Ganwyd12 Mehefin 1944 Edit this on Wikidata
Ffestiniog Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, troellwr disgiau, cyfarwyddwr Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

golygu

Ganwyd Michael Lloyd Jones yn Llan Ffestiniog, Sir Feirionydd yn ail o bedwar plentyn i Huw Morris Jones (Huw Môr) a Daphne Eva Jones (neé Harrison). Daeth ei fam i fyw yn ardal Blaenau Ffestiniog adeg yr Ail Ryfel Byd gyda'i rhieni, Mr a Mrs Barnett Harrison.[1] Nid oedd ei blentyndod yn un hawdd am fod ei fam wedi treulio cyfnodau mewn ysbyty meddwl. Fe magwyd y teulu yng nghartref plant Bryn Llywelyn.

Aeth i Ysgol Gynradd Llan Ffestiniog (Ysgol Bro Cynfal erbyn hyn) a Ysgol Sir Ffestiniog (Ysgol y Moelwyn erbyn hyn).[2]

Yn y 1960au roedd yn troelli disgiau dan yr enw 'DJ Plummy'. Fe'i ysbrydolwyd gan ymgyrchoedd iaith Cymdeithas yr Iaith i gael gwared o'i recordiau Saesneg a cychwynodd y Disco Cymraeg cyntaf gan newid ei enw DJ i Mici Plwm. Bu 'Disco Teithiol Mici Plwm' yn teithio o gwmpas clybiau a neuaddau pentref trwy Gymru am ugain mlynedd gan rannu llwyfan gyda bandiau fel Edward H Dafis.

Cymerodd Mici ran yn ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith ac, yn rhan o'r ymgyrch dros sianel deledu Gymraeg, dringodd fast trosglwyddo Llanddona; derbyniodd ddedfryd o 12 mis o garchar gohiriedig.[3]

Daeth yn enwog yn ystod yr 1970au a'r 1980au am chwarae rhan 'Plwmsan y Twmffat Twp' yn y rhaglenni teledu Teliffant ac Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan ynghyd â Wynford Ellis Owen.

Ymddangosodd ar y llwyfan gyda Cwmni Theatr Gwynedd yn eu cynhyrchiad o Y Gelli Geirios.[4]

Roedd yn Gyfarwyddwr Artistig Theatr Ardudwy, Harlech, rhwng 2002 a 2004.[5]

Mae'n byw yn Harlech, Caerdydd a Phwllheli ac mae'n mwynhau gwyliau aml ar Ynys Agistri, Groeg.

Mae'n rhedeg y cwmni cysylltiadau cyhoeddus 'MP'.

Bu'n gynghorydd ar Gyngor Tref Pwllheli ers 2011. Fe'i etholwyd yn Faer Tref Pwllheli ym mis Mai 2021.[6]

Ffilmyddiaeth

golygu
  • Teliffant (1972) (cyfres deledu) .... Plwmsan y Twmffat Twp
  • Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan (1982) (cyfres deledu) .... Plwmsan y Twmffat Twp
  • Anturiaethau Jini Mê (1991) (cyfres deledu) .... Wmffra Bol Bisgets
  • Caffi Sali Mali (1994) (cyfres deledu) .... Pry Bach Tew
  • Gwyliwch Nhw'n Tyfu (1996) (fideo) .... Llais
  • Ding Dong (1998) (cyfres deledu) .... Bobi
  • Porc Peis Bach (2000) (cyfres deledu) .... Aelwyn

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1  Bywyd Mici. BBC (7 Tachwedd 2002). Adalwyd ar 1 Chwefror 2016.
  2.  Dod i nabod - Mici Plwm. Y Cristion (Medi/Hydref 1998). Adalwyd ar 1 Chwefror 2016.
  3. Mici Plwm yn dathlu 50 mlynedd Cymdeithas yr Iaith , Golwg, 4 Mehefin 2011. Cyrchwyd ar 1 Chwefror 2016.
  4. Rhaglen Cwmni Theatr Gwynedd o Y Gelli Geirios.
  5. Theatre director stands down (en) , 2 Ionawr 2004. Cyrchwyd ar 1 Chwefror 2016.
  6.  Gair gan Y Maer, Mici Plwm. Cyngor Tref Pwllheli. Adalwyd ar 14 Mai 2021.
  NODES
iOS 2
languages 1
os 7