München

prifddinas Bafaria, yn yr Almaen
(Ailgyfeiriad o Munchen)

Dinas yn ne'r Almaen ac yn brifddinas talaith Bafaria yw München (Bafareg: Minga).

München
ArwyddairWeltstadt mit Herz Edit this on Wikidata
Mathtref goleg, dinas fawr, residenz, metropolis, canolfan ariannol, bwrdeistref trefol yr Almaen, urban district of Bavaria, local government in Germany, prif ddinas ranbarthol Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlmynach Edit this on Wikidata
Bar-München.ogg, De-München 2.oga Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,510,378 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1158 Edit this on Wikidata
AnthemSolang der alte Peter Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethDieter Reiter Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iCaeredin, Kyiv Edit this on Wikidata
NawddsantBenno Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirOberbayern Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Almaen Yr Almaen
Arwynebedd310.71 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr519 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawIsar, Isar-Werkkanal, Würm, Eisbach, Auer Mühlbach, Kleinhesseloher See, Dreiseenplatte, Kleine Isar, Nymphenburg Canal, Schwabinger Bach Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaMunich, Dachau, Fürstenfeldbruck, Garching bei München, Q55278376, Q55278629, Neubiberg, Oberschleißheim, Ismaning, Unterföhring, Aschheim, Feldkirchen, Haar, Putzbrunn, Unterhaching, Grünwald, Pullach, Neuried, Planegg, Gräfelfing Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau48.1375°N 11.575°E Edit this on Wikidata
Cod post80331–81929, 85540 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
maer Munich Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethDieter Reiter Edit this on Wikidata
Map
Cost6,600,000,000 Ewro Edit this on Wikidata
Arfau'r ddinas

Gyda phoblogaeth o 1.36 miliwn yn Rhagfyr 2006, München yw trydedd ddinas yr Almaen o ran poblogaeth; dim ond Berlin a Hamburg sy'n fwy. Dim ond 24,000 oedd y boblogaeth yn 1700, ond ers hynny mae'r boblogaeth wedi dyblu bob 30 mlynedd. Mae hefyd yn un o ddinasoedd cyfoethocaf Ewrop. Ystyr yr enw yw "mynachod", ac mae'r ffigwr ar bais arfau'r ddinas yn cynrychioli mynach.

Ceir y sôn cyntaf am y ddinas mewn dogfen yn 1158, pan oedd pont dros Afon Isar gerllaw mynachdy Benedictaidd. Pan ad-unwyd Bafaria yn 1506 daeth München yn brifddinas, ac yn 1806 daeth yn brifddinas Teyrnas Bafaria. Rhwng y ddau ryfel byd, yn München y cododd y Natsïaid a'u harweinydd Adolf Hitler i amlygrwydd. Yn 1923 ceisiodd ef a'i gefnogwyr gipio grym yma, ond methodd a charcharwyd ef.

Yng nghanol y ddinas mae'r Marienplatz, gyda Neuadd y Ddinas gerllaw. Yr adeilad enwocaf yma yw eglwys gadeiriol Gatholig y Frauenkirche. Mae nifer o dimau pêl-droed yn y ddinas, yn cynnwys yr enwocaf o glybiau pêl-droed yr Almaen, FC Bayern Munich. Cynhaliwyd y Gemau Olympaidd yma yn 1972. Mae'r ddinas hefyd yn enwog am yr Oktoberfest, sydd, er gwaethaf ei enw, yn cael ei gynnal ym mis Medi, gan orffen ar y Sul cyntaf yn Hydref.

Enw'r ddinas

golygu

Yn Bafareg, sef iaith gynhenid Bafaria ac Awstria, enw'r ddinas yw Minga /ˈmɪŋ(ː)ɐ/, tra mai München /ˈmʏnçn̩/ yw'r enw mewn Almaeneg safonol. A hithau'n ddinas bwysig a hanes hir iddi, mae enwau arbennig iddi mewn nifer o ieithoedd Ewropeaidd, megis Munich yn y Ffrangeg a'r Saesneg, a Monachium yn y Bwyleg ac yn Lladin.

 
Y Frauenkirche a Neuadd y Ddinas

Pobl enwog o München

golygu
  NODES
Done 1
eth 20
see 3