Mynydd Rhiw
Mynydd isel neu fryn yn ne-orllewin Llŷn, Gwynedd, yw Mynydd Rhiw (cyfeiriad grid SH2329). Gorwedd ei gopa 305 medr i fyny.; cyfeiriad grid SH228293. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 64 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Math | bryn, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Uwch y môr | 304 metr |
Cyfesurynnau | 52.8333°N 4.6333°W |
Cod OS | SH2285029392 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 240 metr |
Rhiant gopa | Mynydd Rhiw |
Gorwedd Mynydd Rhiw ar arfordir de-orllewin penrhyn Llŷn, tua hanner ffordd rhwng Aberdaron ac Abersoch. Wrth droed y mynydd i'r de ceir pentref Rhiw gyda phlasdy enwog Plas-yn-Rhiw gerllaw. Disgyn llethrau'r mynydd yn bur serth i'r môr ym mhen gorllewinol Porth Neigwl, a cheir golygfeydd da dros y bae hwnnw o'r llethrau uchaf.
Ceir mast radar ar gopa Mynydd Rhiw, ond er hynny mae rhan helaeth y mynydd yn eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn dirlun arbennig o hardd.
Cyfeiria'r bardd R. S. Thomas at y mynydd yn ei lyfrau Blwyddyn yn Llŷn a Neb.
Ceir lwybrau i ben y mynydd o sawl pwynt, yn cynnwys pentref Rhiw.
Y copa
golyguDosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd). Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 304m (997tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ddiwethaf ar 28 Hydref 2001.
Archaeoleg
golyguCeir amddiffynfa fach Castell Caeron, sy'n dyddio o Oes yr Haearn yn ôl pob tebyg, ar lethr ogledd-orllewinol Mynydd Rhiw.
Gweler hefyd
golyguDolennau allanol
golygu- Clwb Mynydda Cymru
- Lleoliad ar wefan Streetmap Archifwyd 2011-05-24 yn y Peiriant Wayback
- Lleoliad ar wefan Get-a-map Archifwyd 2011-05-24 yn y Peiriant Wayback