Mae Paganiaeth, o'r Lladin paganus, "dyn cefn gwlad" neu "dinesydd", yn derm mantell a ddefnyddir i gyfeirio at gasgliad eang o gredau ysbrydol neu draddodiadau crefyddol an-Abrahamig, amldduwiol ac animistaidd amrywiol. Fe'i defnyddir yn bennaf o fewn ystyr hanesyddol, gan gyfeirio at amldduwiaeth Roeg-Rufeinig yn ogystal â thraddodiadau amldduwiol Ewropeaidd cyn cael eu Cristnigo. Mewn ystyr ehangach, mae'n cynnwys casgliad eang o grefyddau'r Dwyrain, a'r traddodiadau brodorol o'r Amerig, Canolbarth Asia, Awstralia ac Affrica, yn ogystal â chrefydd gwerin an-Abrahamig yn gyffredinol. Nid yw diffiniadau mwy cul yn cynnwys unrhyw grefydd y byd ac yn cyfyngu'r term i draddodiadau lleol neu wledig sydd ddim yn cael eu trefnu fel crefyddau gwladol. Ar y cyfan, nid yw traddodiadau a chrefyddau Paganaidd yn proselytio ond yn cynnwys mytholeg fyw, sy'n egluro pam mae arferion crefyddol ynddi.

Addasiad Cristnogol o'r gair Iddewig "Cenhedlig" yw'r term pagan, ac o ganlyniad mae tuedd Abrahamig cynhenid ganddo, yn ogystal â chynodiadau pejoratif ymysg monotheistiaid.[1] Oherwydd ei hystyron ansicr, amrywiol, mae ethnolegwyr yn tueddu osgoi'r term "paganiaeth" wrth gyfeirio at ffeithiau hanesyddol neu draddodiadol - mae'n well defnyddio categorïau mwy trachywir megis amldduwiaeth, siamanaeth, pantheistiaeth, neu animistiaeth.

Gwêl yr hanesydd Dr John Davies gysylltiad rhwng y gair â'r ardal honno yng nghanolbarth Cymru, "Powys". Dywed, "Mae'n debygol bod perthynas rhwng y gair pagus a'r enw "Powys"; maent yn gytras felly â'r gair "pagan". Credir mai cnewyllyn teyrnas Powys oedd pagus neu gefn gwlad teyrnas y Cornovii ac i Bowys ehangu i gynnwys y diriogaeth honno..."[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Pagan", Encyclopedia Britannica 11fed argraffiad, 1911, cyrchwyd 22 Mai 2007.[1] Archifwyd 2009-11-19 yn y Peiriant Wayback
  2. Hanes Cymru; Cyhoeddwyd gan Penguin, 1990; tudalen 52.
  Eginyn erthygl sydd uchod am grefydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  NODES
Done 1
eth 16
see 1