Paleontoleg
Paleontoleg (hefyd Palaeontoleg) yw'r astudiaeth wyddonol o organebau ac anifeiliaid hynafol sydd wedi darfod o'r tir trwy astudio eu holion ffosil mewn creigiau. Astudir eu tacsonomeg, anatomeg a'u ecoleg, ynghyd â'u esblygiad dros amser.
Defnyddir ffosiliau i sefydlu'r berthynas stratigraffig rhwng gwahanol haenau o greigiau yn ogystal; gelwir y gangen hon o'r wyddor yn biostratiffeg. Gelwir yr astudiaeth o ffosilau organebau meicrosgopig yn meicrobaleontoleg a'r ffosilau eu hunain yn feicroffosilau.
Cefndir
golyguMae paleontoleg fel gwyddor yn dyddio o'r 18g. Mae paleontoleg fodern yn ceisio gosod bywyd cynhanesyddol yn ei gyd-destunau trwy astudio sut mae newidiadau tymor-hir yn naearyddiaeth y byd (paleoddaearyddiaeth) a hinsawdd (paleohinsawdd) wedi effeithio ar esblygiad bywyd, sut mae ecosystemau wedi ymateb i hynny a sut mae'r addasu hynny wedi newid ac addasu patrymau bioamrywiaeth heddiw yn eu tro. Felly mae paleontoleg yn wyddor sy'n cynnwys gwyddorau eraill fel daeareg, botaneg, bioleg, sŵoleg ac ecoleg, sy'n ddigyblaethau sy'n ymwneud a'r amrywiol fodau byw a sut maent yn rhyngweithio ac yn effeithio ar ei gilydd.
Mae is-raniadau mawr paleontoleg yn cynnwys paleosŵoleg (anifeiliaid), paleobotaneg (planhigion) a microbaleontoleg (microfossilau). Gallai paleosŵolegwyr arbenigio mewn paleontoleg anifeilaid heb asgwrn cefn, neu gyda asgwrn cefn, gan gynnwys hominidau ffosil (paleoanthropoleg). Mae micropaleontolegwyr yn astudio ffosilau microscopig.
Mae meysydd arbennigol eraill sy'n datblygu heddiw yn cynnwys paleobioleg, paleoecoleg, ichnoleg (astudio olion a ffeuau anifeiliaid) a taphonomeg (astudio beth sy'n digwydd i organebau ar ôl iddynt farw). Astudir yn ogystal haenau creigiau a'u oedran daearegol ac esblygiad bodau byw.
Mae paleontoleg yn defnyddio'r system categoreiddio ar gyfer organebau byw a ddyfeisiwyd yn y 18g gan y biolegydd o Sweden Carolus Linnaeus.
Yn nhermau economeg, mae paleontoleg yn defnyddio tystiolaeth ffosilau i brofi oed a natur creigiau (yn arbennig creigiau gwaddod) ac felly'n darganfod gwybodaeth sy'n hanfodol i'r diwydiant mwyngloddio ac yn arbennig i'r diwydiant petroliwm.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golyguDolenni allanol
golygu- Gwefan paleobioleg y Smithsonian
- University of California Museum of Paleontology FAQ am baleontoleg
- The Paleontological Society
- The Palaeontological Association
- The Paleontology Portal Archifwyd 2009-09-30 yn y Peiriant Wayback
- International Palaeoentomological Society Archifwyd 2007-04-19 yn archive.today