Parc Bailey, y Fenni

parc dinesig yn Y Fenni

Parc yn y Fenni, Sir Fynwy, yw Parc Bailey. Mae'r parc wedi’i gofrestru’n Radd II ar Gofrestr o Barciau a Gerddi yng Nghymru sydd o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig Cadw.[1] Mae'r gatiau ar Ffordd Henffordd wedi'u rhestru fel Adeilad rhestredig Gradd II.[2]

Bailey Park
Mathparc dinesig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirY Fenni Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.82625°N 3.015655°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethHenebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Sefydlwyd y parc ym 1884 ar dir a roddwyd i'r dref gan Crawshay Bailey yr ieuaf (1789–1872) ), mab i Crawshay Bailey y haearnfeistr. Ym 1894 prynwyd y parc gan yr Improvement Commissioners, rhagflaenwyr Cyngor Tref y Fenni, gan ddefnyddio arian a roddwyd gan etifeddion Bailey.[3] Roedd y parc yn cynnwys llawer o'r cyfleusterau a oedd yn gyffredin i'r rhai a sefydlwyd yn oes Fictoria, gan gynnwys bandstand, lawntiau bowlio a thai gwydr. Adeialadwyd pwll nofio yn y parc yn 1939, ond cafodd hwn ei ddadgomisiynu yn 1996 a'i ddymchwel yn ddiweddarach. Am rai blynyddoedd bu ymgyrch i ail-greu’r pwll ond daeth hyn i ben yn 2024.[4]

Rheolir y parc gan Gyngor Sir Fynwy.

Mae'r parc yn gartref i Glwb Rygbi'r Fenni.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Registered Historic Park & Garden", Cadw
  2. "Full Report for Listed Buildings", Cadw
  3. "Bailey Park, Abergavenny", historypoints.org; adalwyd 3 Rhagfyr 2024
  4. "The end of the dream for Abergavenny Lido?", Abergavenny Chronicle; adalwyd 3 Rhagfyr 2024
  NODES