Gŵyl bwysicaf Cristnogaeth yw'r Pasg (Groeg: Πάσχα, Pascha). Mae Cristnogion drwy'r byd yn dathlu atgyfodiad Iesu Grist ar Ddydd Sul y Pasg, ar ôl ei groeshoelio ar Ddydd Gwener y Groglith, sef y Dydd Gwener cyn hynny.

Atgyfodiad Crist gan Piero della Francesca

Digwyddodd y Groeshoeliad yn ystod y Pasg Iddewig, gŵyl sy'n cael ei disgrifio yn yr Hen Destament (Exodus 12:1-30). Mae'r Pasg Cristnogol wedi ei sylfaenu ar y Pasg Iddewig yn drosiadol hefyd: mae'r Testament Newydd yn galw Iesu yn "Oen y Pasg" (1 Corinthiaid 5:7).

Gall "y Pasg" hefyd gyfeirio at "Dymor y Pasg", sy'n awr yn para am 50 diwrnod hyd y Pentecost. Mae'r Pasg yn nodi diwedd Tymor y Grawys.

Amrywia dyddiad y Pasg o flwyddyn i flwyddyn, rhwng diwedd mis Mawrth a diwedd mis Ebrill; neu i Eglwysi Uniongred y dwyrain, rhwng dechrau Ebrill a dechrau Mai. Bu canrifoedd lawer o ddadlau ynghylch dyddiad y Pasg, ond yn y diwedd cytunwyd i dderbyn dull yr Eglwys Alecsandraidd, yn awr yr Eglwys Goptaidd, mai'r Pasg yw'r dydd Sul cyntaf ar ôl pedwerydd diwrnod ar ddeg cylch y Lleuad sydd ar neu ar ôl cyhydnos y gwanwyn.

Traddodiadau'n ymwneud â'r Pasg

golygu
 
Cwningen â wyau

Ceir nifer o draddodiadau sy'n ymwneud â'r Pasg, rhai ohonynt yn dyddio'n ôl i gyfnod y crefyddau Paganaidd. Yng Nghymru, fel llawer o wledydd eraill drwy'r byd, mae'n arferiad rhoi ŵy Pasg yn anrheg i ffrindiau a theulu. Ceir hefyd gysylltiad â'r gwningen - sy'n mynd yn ôl mor bell â 1600; gwaith y gwningen ydy cuddio'r wyau Pasg o gwmpas y tŷ. Dywed eraill fod cysylltiad llawer hyn i Gwningen y Pasg, sy'n mynd nôl i'r hen grefydd Geltaidd. Sonir mewn ysgrifen yn gyntaf am y traddodiad hwn yn llyfr Georg Franck von Franckenau, De ovis paschalibus[1] (Ynghylch Wyau Pasg) yn 1682[2] sy'n crybwyll hen draddodiad o Alsace am yr ysgyfarnog yn dod â wyau Pasg i'r plant. Diddorol hefyd ydy cysylltiad Santes Melangell gyda'r sgwarnog.

Gweler hefyd

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Easter Bunny". cfi. Cyrchwyd 08/04/2012. Check date values in: |accessdate= (help)
  2. Easter Bunny - What Does He Have To Do With Easter?, occultcenter.com
  NODES
os 7