Pennal
Pentref a chymuned yn ne Gwynedd yw Pennal ( ynganiad ). Saif ar y briffordd A493 rhwng Tywyn a Machynlleth, ac ar lan ogleddol Afon Dyfi. Mae gan Pennal nifer o gysylltiadau hanesyddol gan gynnwys eglwys gron, sy'n deillio nôl i eglwys gynharach, Geltaidd.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 333 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.5857°N 3.9211°W |
Cod SYG | W04000093 |
Cod OS | SH699003 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]
Hanes
golyguCaer Rufeinig Pennal
golygu- Prif: Caer Rufeinig Pennal
Roedd ffordd Rufeinig Sarn Helen yn mynd heibio'r fan, ac yr oedd caer Rufeinig fechan yma, efallai yn gwarchod man croesi Afon Dyfi. Ni ellir gweld lawer o weddillion y gaer, mae rhan ohoni wedi ei gorchuddio gan dŷ Cefn Caer i'r de-ddwyrain o'r pentref, yn nes i'r afon. Roedd y gaer yn cynnwys 12 acer o dir, sef tua 670 troedfedd wrth 505 troedfedd, wedi ei chodi ar ben caer gynharach o 4.38 acer. Cafwyd arian bath o gyfnod Titus a Domitian ar y safle. Y darganfyddiad mwyaf diddorol oedd teil lleng Rufeinig sy'n darllen LEG II AVG ANTO(ninia), sy'n perthyn i'r cyfnod 212-222 efallai.
Yr Oesoedd Canol
golyguSaif Castell Tomen-las, sef hen domen amddiffynnol o'r Oesoedd Canol yng nghanol y pentref.
Yn ôl traddodiad, merch o Bennal oedd Lleucu Llwyd, cariad y bardd Llywelyn Goch ap Meurig Hen a thestun un o'r marwnadau mwyaf grymus a chofiadwy yn yr iaith Gymraeg.
Ym Mhennal y galwodd Owain Glyndŵr gyfarfod yn Mawrth 1406 ac ysgrifennu llythyr i frenin Ffrainc a adwaenir fel "Llythyr Pennal" ac sy'n ffurfio rhan o Bolisi Pennal. Roedd y llythyr yn amlinellu cynlluniau Glyn Dŵr ar gyfer Cymru annibynnol. Dychwelwyd y llythyr i Gymru o Ffrainc am gyfnod yn 2000, ar gyfer arddangosfa yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac mae ymgyrch i geisio ei gael yn ôl i Gymru yn barhaol. Mae gardd goffa i dywysogion Cymru yn y pentref.
Cyfnod diweddar
golyguYn nechrau'r 19g yr oedd Pennal o bwysigrwydd fel porthladd ar gyfer chwareli llechi Corris, Aberllefenni ac Abergynolwyn. Roedd y llechi'n cael eu cludo o'r chwareli ar gefn ceffylau i'w llwytho i gychod ar yr afon. Daeth hyn i ben pan adeiladwyd Rheilffordd Corris i Fachynlleth a Rheilffordd Talyllyn i Dywyn. Bu Richard Rees (1926 - 2003) y canwr byd-enwog yn ffermio ar Fferm Penmaenbach ger y pentref, a chladdwyd ef ym mynwent gron yr eglwys.
Cyfrifiad 2011
golyguYng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
Oriel
golygu-
Cerflun o Owain Glyn Dŵr y tu allan i'r eglwys
-
Enghraifft prin o dduw Celtaidd ar ffenest liw
-
Sant Tannwg a Sant Eithrias
-
Nenfwd yr eglwys
-
Arfbais un o'r teuluoedd lleol
-
Gweddi'r Arglwydd ar fagwyr ger yr allor
-
Ffenest liw a chanhwyllbrenni
-
Plac yn yr ardd goffa
-
Capel y Methodistiaid
-
Tafarn Glan yr Afon
-
Bedd y baswr Richie Rees
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Dolenni allanol
golygu- Llythyr Pennal o wefan Cymdeithas Owain Glyndŵr Archifwyd 2005-10-26 yn y Peiriant Wayback
- Cefn Caer Tŷ Neuadd Canoloesol - Preswylfa Achlysurol Owain Glyndŵr Archifwyd 2011-02-25 yn y Peiriant Wayback
Dinas
Bangor
Trefi
Abermaw · Y Bala · Bethesda · Blaenau Ffestiniog · Caernarfon · Cricieth · Dolgellau · Harlech · Nefyn · Penrhyndeudraeth · Porthmadog · Pwllheli · Tywyn
Pentrefi
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Aber-erch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Beddgelert · Bethania · Bethel · Betws Garmon · Boduan · Y Bont-ddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas, Llanwnda · Dinas, Llŷn · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolbenmaen · Dolydd · Dyffryn Ardudwy · Edern · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Fron-goch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Llanaber · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandecwyn · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-Pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywer · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhosgarnedd · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Pen-y-groes · Pistyll · Pontllyfni · Portmeirion · Prenteg · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhoslefain · Rhostryfan · Rhos-y-gwaliau · Rhyd · Rhyd-ddu · Rhyduchaf · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Saron · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Tal-y-llyn · Tal-y-sarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tre-garth · Tremadog · Tudweiliog · Waunfawr