Penteulu
Yng Nghymru'r Oesoedd Canol, pennaeth y 'teulu' (gosgordd filwrol y brenin) oedd y penteulu (Cymraeg Canol, penteilu/penteylu). Yn ôl defod hynafol, roedd y penteulu yn fab neu nai i'r brenin ei hun.[1]
Disgrifir ei swydd a'i le yn llys y brenin yn yr adran ar Gyfraith y Llys yn y llyfrau cyfraith Cymreig. Roedd yn un o'r Pedwar Swyddog ar Ugain yn y llys. Roedd yn eistedd ym mhen isaf y neuadd gydag aelodau dethol o'r osgordd o gwmpas drws y neuadd, ac felly yn gwarchod y fynedfa. Yn ei ymyl roedd y bardd teulu, a ganai i'r osgordd a'i diddanu (mae lle i dybio fod Aneirin yn fardd teulu cynnar), ac roedd y penteulu yn fod i roi iddo ei delyn. Ei werth a'i sarhad oedd traean o werth y brenin ac - yng Ngwynedd o leiaf - roedd dan awdurdod y Distain.[2]
Ceir cyfran o waith Beirdd y Tywysogion sy'n ganu i 'deuluoedd', yn cynnwys y penteulu, er enghraifft i deuluoedd Madog ap Maredudd, Owain Cyfeiliog ac Owain Gwynedd.