Pinc mynydd

rhywogaeth o adar
Pinc mynydd
Fringilla montifringilla

,

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Fringillidae
Genws: Fringilla[*]
Rhywogaeth: Fringilla montifringilla
Enw deuenwol
Fringilla montifringilla
Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Pinc mynydd (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: pincod mynydd) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Fringilla montifringilla; yr enw Saesneg arno yw Brambling. Mae'n perthyn i deulu'r Pincod (Lladin: Fringillidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn F. montifringilla, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yng Ngogledd America, Asia, Ewrop ac Affrica.

Yn y gaeaf mae'n symud tua'r de a thua'r gorllewin, i dde Ewrop, gogledd Affrica, India, Tsieina a Japan.

Adeiledir y nyth mewn coeden fel rheol, mewn coedwigoedd gweddol agored, ac mae'n dodwy 4-9 wy. Tu allan i'r tymor nythu mae'n casglu'n heidiau, yn aml gyda'r Ji-binc. Hadau yw'r prif fwyd, ond mae'r cywion yn cael eu bwydo ar bryfed.

Rhaid bod yn weddol ofalus i wahaniaethu rhwng Pinc y Mynydd a'r Ji-binc. Mae gan Binc mynydd fron oren a bol gwynnach na'r Ji-binc, ac wrth hedfan mae'n dangos darn gwyn uwchgben y gynffon. Yn y tymor nythu mae gan y ceiliog ben a chefn du.

Nid yw Pinc mynydd yn nythu yng Nghymru ond mae nifer amrywiol yn gaeafu yma. Weithiau gellir gweld heidiau o gannoedd, ond fel rheol gellir gweld un neu ddau mewn haid o'r Ji-binc.

Mae'r pinc mynydd yn perthyn i deulu'r Pincod (Lladin: Fringillidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Q777369 Carpodacus waltoni eos
 
Nico Carduelis carduelis
 
Serin sitron Carduelis citrinella
 
Tewbig cynffonddu Eophona migratoria
 
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  Safonwyd yr enw Pinc mynydd gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.
  NODES