Pontsiân

pentref yng Ngheredigion

Pentref yng nghymuned Llandysul, Ceredigion, Cymru, ydy Pontsiân[1] neu Pont-Siân.[2] Saif ar lan Afon Cletwr, sy'n llifo i mewn i'r Teifi.

Pontsiân
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.0943°N 4.2882°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN442491 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruElin Jones (Plaid Cymru)
AS/au y DUBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Prif ddiwydiant y pentref ydy amaethyddiaeth. Mae gan y pentref ysgol gynradd, siop a neuadd pentref.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[4]

Ffilmiwyd rhannau helaeth o'r ffilm Martha, Jac a Sianco mewn ffermdy ar gyrion y pentref.[5]

Bu Gwilym Eirwyn Jones (Eirwyn Pontshân) yn byw yn y pentref am gyfnod.[6]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru" Archifwyd 2023-03-30 yn y Peiriant Wayback, Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 7 Ionawr 2023
  2. British Place Names; adalwyd 7 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. "S4C i ddarlledu ffilm yn dilyn llwyddiant Bafta Cymru". S4C. 22 Mai 2009.
  6. "JONES, GWILYM EIRWYN ('EIRWYN PONTSHÂN') (1922-1994), saer coed, diddanwr, cenedlaetholwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 17 Gorffennaf 2021.
  NODES