Porth Neigwl
Bae eang ar arfordir penrhyn Llŷn, Gwynedd, yw Porth Neigwl (Saesneg: Hell's Mouth).
Math | bae |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.8°N 4.58333°W |
Disgrifiad
golyguMae'n fae agored, eang, sy'n gorwedd rhwng pentiroedd Mynydd Rhiw i'r gorllewin a Mynydd Cilan i'r dwyrain. Mae'r pentiroedd hyn yn greigiog gyda chlogwynni yn disgyn i'r môr. Felly mae Porth Neigwl fel ceg llydan agored yn nhirwedd de Llŷn: dyma, a'r ffaith ei fod mor beryglus i forwyr ar dywydd mawr oherwydd y tonnau mawr a diffyg cysgod, sy'n cyfrif ar yr enw Saesneg ar y bae.
Ceir traeth hir, unionsyth bron, sy'n ymestyn am tua pedair milltir rhwng y ddau benrhyn. Tu ôl i'r traeth ceir tywynni gwelltog sy'n ffurfio morfa nodedig. Llifa afon Soch ar gwrs cyfochrog i'r traeth gan dod o fewn hanner milltir iddo ger Llanengan, yr unig bentref o fewn cyrraedd iddo.
Ceir maes pebylla a charafanio yn Nhai Morfa, ger Llanengan. Oherwydd y tonnau mawr a geir yno mae'n gyrchfan poblogaidd ar gyfer hwylfordio.
Cadwraeth
golyguMae Porth Ceiriad, Porth Neigwl ac Ynysoedd Tudwal yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Oriel luniau
golygu-
Porth Neigwl tua 1885.
-
Porth Neigwl o Fynydd Rhiw
-
Ynys Enlli o draeth Porth Neigwl
-
Machlud haul o'r traeth