Proterosöig
3ydd israniad y linell-amser ddaearegol yw'r Proterosöig a'r eon olaf o'r goreon cyn-Gambriaidd. Mae'n cynrychioli'r amser ychydig cyn datblygiad bywyd ar y Ddaear. Daw'r enw Proterosöig o'r Groeg "bywyd cynharach"; ystyr y gwreiddyn "protero-" yw "rhagflaenu" ac ystyr "söig" yw "anifail, rhywbeth byw".[1] Digwyddodd y Proterosöig rhwng 2500 Ma a 542.0±1.0 Ma (miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP)), a dyma ran mwyaf diweddar y cyn-Gambriaidd. Caiff ei rannu'n dair gorgyfnod - o'r iengengaf i'r hynaf: y Paleoproterosöig, Mesoproterosöig, a'r Neoproterosöig.
Enghraifft o'r canlynol | eon, eonothem |
---|---|
Rhan o | Cyn-Gambriaidd, Graddfa Cronostratigraffig Fyd-eang Safonol (Daeargronolegol) ICS |
Dechreuwyd | c. Mileniwm 2501. CC |
Daeth i ben | c. Mileniwm 538800. CC |
Rhagflaenwyd gan | Archeaidd |
Olynwyd gan | Ffanerosöig |
Yn cynnwys | Paleoproterozoic, Mesoproterozoic, Neoproterosöig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r digwyddiadau sy'n berthnasol i'r eon hon wedi eu diffinio'n eitha clir: ceir newid yr hinsawdd i un llawn ocsigen yn ystod y Paleoproterosöig, rhewi wyneb y Ddaear yn ystod y cyfnod Cryogeniaidd yn y Neoproterosöig hwyr ac yn olaf y cyfnod Ediacaraidd (635 - 542 CP) ble cafwyd datblygu organeb amlgellog.
Cyn-Gambriaidd | |||
---|---|---|---|
Hadeaidd | Archeaidd | Proterosöig | Ffanerosöig |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Online Etymology Dictionary". www.etymonline.com. Cyrchwyd 2015-12-16.