Y Raj Prydeinig

(Ailgyfeiriad o Raj)

Goruchwyliaeth yr Ymerodraeth Brydeinig dros y rhan helaethaf is-gyfandir India—heddiw India, Pacistan, Bangladesh, a Myanmar—o 1858 i 1947 oedd y Raj Prydeinig. Enw cyfoes cyffredin y diriogaeth enfawr hon oedd India; bellach, defnyddir "y Raj Prydeinig" yn aml yn drawsenw i ddisgrifio'r rhanbarth yn y cyfnod hanesyddol hwn. Yn gywir, yr oedd y Raj yn cynnwys India Brydeinig (lled-ffederasiwn o arlywyddiaethau a thaleithiau a lywodraethwyd yn uniongyrchol gan y Goron Brydeinig drwy Raglaw) a'r Taleithiau Tywysogaidd (a lywodraethwyd gan arweinwyr Indiaidd dan benarglwyddiaeth y Goron Brydeinig). Weithiau defnyddir y term Ymerodraeth India, neu Ymerodraeth Brydeinig India, am i'r teyrn Prydeinig ddwyn y teitl Ymerodres neu Ymerawdwr India o 1876 i 1947; neu lywodraeth y Goron yn India neu lywodraeth Uniongyrchol yn India, mewn cyferbyniad â llywodraeth y Cwmni yn India (1757–1858).

yr oruchwyliaeth Brydeinig yn India
Mathtrefedigaeth Edit this on Wikidata
PrifddinasKolkata, Delhi Newydd Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1858 Edit this on Wikidata
AnthemGod Save the King Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolBritish India, yr Ymerodraeth Brydeinig Edit this on Wikidata
Gwladyr Ymerodraeth Brydeinig Edit this on Wikidata
Arwynebedd4,917,273 km², 4,238,773 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau22.5411°N 88.3378°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholCentral Legislative Assembly Edit this on Wikidata
Map
Arianrupee Indiaidd Edit this on Wikidata

Wedi cythrwfl Gwrthryfel y Sepoiaid ym 1857, pasiwyd Deddf Llywodraeth India 1858 gan Senedd y Deyrnas Unedig i drosglwyddo rheolaeth Cwmni India'r Dwyrain dros India i'r Goron Brydeinig, ac i ddiddymu'n swyddogol Ymerodraeth y Mughal. Dan y drefn newydd, rheolwyd India yn uniongyrchol gan lywodraeth y Deyrnas Unedig trwy Raglaw a Llywodraethwr Cyffredinol India a'r cyngor deddfwriaethol. Y teyrn Prydeinig oedd yn sofran, a phenodwyd y Rhaglaw ganddo ef neu ganddi hi i gynrychioli'r Goron yn India. Ym 1876, rhoddwyd y teitl Ymerodres India i'r Frenhines Victoria, a fe'i holynwyd gan yr ymerodron Edward VII (teyrnasai 1901–10), Siôr V (1910–36), Edward VIII (1936), a Siôr VI (1936–47). Penodwyd hefyd Ysgrifennydd Gwladol India (o 1937 i 1947, Ysgrifennydd Gwladol India a Byrma) yn aelod o'r cabinet yn bennaeth ar Swyddfa India yn Llundain i arolygu llywodraeth y Raj Prydeinig.

Aeth y Raj ati i atgyfnerthu rheolaeth ymerodrol dros wleidyddiaeth, economi, a gweinyddiaeth India. Sefydlwyd cyfundrefn ganolog o weinyddu'r diriogaeth, adeiladwyd rheilffyrdd, llinellau telegraff, ac isadeiledd arall, a chyflwynwyd addysg Brydeinig i'r is-gyfandir. Yr iaith Saesneg oedd cyfrwng gohebiaeth lywodraethol; cydnabuwyd Wrdw ac ieithoedd brodorol eraill i wahanol raddau. Prifddinas y Raj oedd Calcutta (bellach Kolkata) o 1858 i 1911, a Delhi Newydd o 1911 i 1947.

Rhennid tiriogaeth India Brydeinig yn arlywyddiaethau neu daleithiau gyda llywodraethau lleol, a mân-daleithiau dan weinyddiaeth prif gomisiynwyr. Y prif daleithiau oedd Byrma, Bengal, Madras, Bombay, y Taleithiau Unedig, Taleithiau'r Canolbarth a Berar, y Pwnjab, ac Asám, a'r mân-daleithiau oedd Talaith Ffin y Gogledd-orllewin, Baluchistan, Coorg, Ajmer-Merwara, ac Ynysoedd Andaman a Nicobar. Yn ogystal, câi tiriogaeth Aden, yng ngorynys Arabia, ei rheoli o Bombay hyd at ei dyrchafu yn fân-dalaith ym 1932; ym 1937, sefydlwyd Trefedigaeth Aden, ar wahân i'r Raj. Ym 1937 sefydlwyd un o'r taleithiau mwyaf, Byrma, yn drefedigaeth ar wahân, ac erbyn heddiw Myanmar ydy enw'r wlad honno. Cydnabuwyd, y tu hwnt i ffiniau India Brydeinig, y Taleithiau Tywysogaidd, a oedd yn lled-annibynnol a than benarglwyddiaeth neu oruchafiaeth y teyrn Prydeinig, yn eu plith Hyderabad, Jammu a Kashmir, Mysore, a Travancore.

Nodweddir y cyfnod hwn o hanes India gan drefedigaethrwydd economaidd ar raddfa eang: cyflwynwyd polisïau i ffafrio buddiannau diwydiannol y Deyrnas Unedig a chwmnïau Prydeinig yn India, a threthi i ymelwa ar y boblogaeth frodorol. Gwrthwynebwyd y drefn ymerodrol gan nifer fawr o'r bobl, yn enwedig mewn ymateb i ormes ac erchyllterau megis cyflafan Jallianwala Bagh (1919). Sefydlwyd mudiadau a grwpiau i ymgyrchu dros annibyniaeth, gan gynnwys y Gyngres Genedlaethol. O'r diwedd, cytunodd y Prydeinwyr i ddiddymu'r Raj wedi'r Ail Ryfel Byd, a chynlluniwyd i rannu'r rhan fwyaf o'r is-gyfandir yn ddwy i greu gwladwriaeth a chanddi fwyafrif Hindwaidd (India), a gwladwriaeth arall a chanddi fwyafrif Mwslimaidd (Pacistan, a oedd ar y pryd yn cynnwys Bangladesh). Pasiwyd Deddf Annibyniaeth India gan Senedd y Deyrnas Unedig yng Ngorffennaf 1947, a daeth y Raj Prydeinig i ben wrth i India a Phacistan ennill eu hannibyniaeth ar ganol nos 14–15 Awst 1947.[1] Parhaodd y ddwy wlad yn ddominynau annibynnol dan deyrnasiad y teyrn Prydeinig nes sefydlu Gweriniaeth India ym 1950 a Gweriniaeth Pacistan ym 1956.

Er y mae Nepal, Sri Lanca ac ynysoedd y Maldives yn ddaearyddol yn rhan o is-gyfandir India, ac yr oeddynt i gyd yn hanesyddol dan dra-arglwyddiaeth yr Ymerodraeth Brydeinig, ni ddaethant dan oruchwyliaeth y Raj: trefedigaeth y Goron oedd Seilón (Sri Lanca) o 1802 i 1948, a phrotectoriaethau oedd Teyrnas Nepal o 1816 i 1923 a Swltaniaeth y Maldives o 1887 i 1965. Yr unig wlad yn yr is-gyfandir i barhau'n gwbl annibynnol ar yr Ymerodraeth Brydeinig oedd Bhwtan, er iddi orfod ildio gorlifdiroedd y Duar i'r Raj yn sgil colli rhyfel ym 1865.

Rhestr Rhaglawiaid

golygu
Penodwyd gan y Frenhines Fictoria
Penodwyd gan y Brenin Edward VII
Penodwyd gan y Brenin Siôr V
Penodwyd gan y Brenin Edward VIII
Penodwyd gan y Brenin Siôr VI

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) British raj. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 1 Mehefin 2023.
  NODES
os 14