Rhestr o Siroedd New Jersey
Dyma restr o'r 21 rhanbarth gweinyddol sy'n cael eu hadnabod wrth yr enw County yn Nhalaith New Jersey yn yr Unol Daleithiau, yn nhrefn yr wyddor:[1]
Rhestr
golyguFIPS
golyguMae'r cod Safon Prosesu Gwybodaeth Ffederal (FIPS), a ddefnyddir gan lywodraeth yr Unol Daleithiau i roi cod hunaniaeth unigryw i daleithiau a siroedd y wlad, yn cael ei ddarparu gyda phob cofnod yn y tabl. New Jersey yw 34 , a fyddai, o'i gyfuno ag unrhyw god sirol, yn cael ei ysgrifennu fel 34XXX. Mae Atlantic County yn rhannu'r cod 001 gyda nifer o siroedd eraill yn yr Unol Daleithiau megis Allegany County, Maryland ond o ragddodi cod talaith New Jersey, 34, i cod Atlantic County ceir 34001, cod unigryw i'r sir honno.
Mae'r cod FIPS ar gyfer pob sir yn y tabl isod yn cysylltu â data cyfrifiad ar gyfer y sir honno. [2]
Sir |
Cod FIPS [3] | Sedd sirol[4] | Dinas fwyaf | Sefydlu[4] | Tarddiad[5] | Etymoleg[6] | Dwyster (y mi²) | Poblogaeth[7] | Maint[4] | Map |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Atlantic County | 001 | Mays Landing | Galloway Township 37,349 | 1837 | Gloucester County | Cefnfor Iwerydd, sy'n ffurfio ffin ddwyreiniol y sir | 489.39 | 265,429 | ( 1,453 km2) |
561 sq mi|
Bergen County | 003 | Hackensack | Hackensack 43,010 | 1683 | Un o 4 sir wreiddiol a grëwyd yn Nwyrain Jersey | Bergen, anheddiad yn New Netherland (cyn drefedigaeth yr Iseldiroedd yn yr un ardal) | 3,868.02 | 936,692 | ( 606 km2) |
234 sq mi|
Burlington County | 005 | Mount Holly | Evesham Township 45,538 | 1694 | Un o ddwy sir wreiddiol a grëwyd yng Ngorllewin Jersey | Yr hen enw am farchnad fewndirol ger Bridlington, Lloegr | 557.43 | 445,384 | ( 2,085 km2) |
805 sq mi|
Camden County | 007 | Camden | Camden 77,344 | 1844 | Gloucester County | Charles Pratt, Iarll 1af Camden (1714–1794), cefnogwr Seisnig i'r gwladychwyr yn ystod Rhyfel Annibyniaeth America [8] | 2,313.77 | 507,078 | ( 575 km2) |
222 sq mi|
Cape May County | 009 | Cape May Court House | Lower Township 22,844 | 1692 | Burlington County | Cornelius Jacobsen Mey, archwiliwr o'r Iseldiroedd o'r 17 ganrif, a fu'n archwilio ac yn arolygu Bae Delaware i'r de o'r sir | 381.43 | 92,560 | ( 660 km2) |
255 sq mi|
Cumberland County | 011 | Bridgeton | Vineland 60,724 | 1748 | Salem County | Tywysog William, Dug Cumberland (1721–1765), ail fab Siôr II, brenin Prydain Fawr a'r buddugwr milwrol ym Mrwydr Culloden ym 1746 | 320.85 | 150,972 | ( 1,267 km2) |
489 sq mi|
Essex County | 013 | Newark | Newark 277,140 | 1683 | Un o bedair sir wreiddiol a grëwyd yn Nwyrain Jersey | Swydd Essex Lloegr | 6,221.98 | 799,767 | ( 326 km2) |
126 sq mi|
Gloucester County | 015 | Woodbury | Washington Township 48,559 | 1686 | Burlington County | Dinas Caerloyw, Lloegr | 887.04 | 291,408 | ( 842 km2) |
325 sq mi|
Hudson County | 017 | Jersey City | Jersey City 247,597 | 1840 | Bergen County | Yr archwiliwr o Loegr Henry Hudson (bu f. 1611), a archwiliodd rannau o arfordir New Jersey | 13,495.02 | 676,061 | ( 122 km2) |
47 sq mi|
Hunterdon County | 019 | Flemington | Raritan Township 21,936 | 1714 | Burlington County | Robert Hunter (1664–1734), Llywodraethwr Trefedigaethol New Jersey rhwng 1710 a 1720 | 298.49 | 124,714 | ( 1,114 km2) |
430 sq mi|
Mercer County | 021 | Trenton | Hamilton Township 88,464 | 1838 | Burlington County, Hunterdon County, Middlesex County, a Somerset County | Hugh Mercer (1726-1777) Cadfridog yn y Fyddin Gyfandirol, a fu farw ym Mrwydr Princeton [9] | 1,621.74 | 369,811 | ( 585 km2) |
226 sq mi|
Middlesex County | 023 | New Brunswick | Edison 99,967 | 1683 | Un o bedair sir wreiddiol a grëwyd yn Nwyrain Jersey | Swydd Middlesex, Lloegr | 2,604.05 | 829,685 | ( 805 km2) |
311 sq mi|
Monmouth County | 025 | Freehold Borough | Middletown Township 66,522 | 1683 | Un o bedair sir wreiddiol a grëwyd yn Nwyrain Jersey | Sir Fynwy, Cymru | 1,335.55 | 621,354 | ( 1,222 km2) |
472 sq mi|
Morris County | 027 | Morristown | Parsippany-Troy Hills 53,238 | 1739 | Hunterdon County | Y Cyrnol Lewis Morris (1671–1746), llywodraethwr trefedigaethol New Jersey ar adeg ffurfio'r sir [10] | 1,049.63 | 494,228 | ( 1,215 km2) |
469 sq mi|
Ocean County | 029 | Toms River | Lakewood Township 92,843 | 1850 | Monmouth County a Burlington County | Cefnfor Iwerydd, sy'n ffurfio ffin ddwyreiniol New Jersey | 629.44 | 601,651 | ( 1,647 km2) |
636 sq mi|
Passaic County | 031 | Paterson | Paterson 146,199 | 1837 | Bergen County ac Essex County | "Pasaeck", gair y llwyth frodorol Y Lenape, sy'n golygu "cwm" | 2,709.33 | 503,310 | ( 479 km2) |
185 sq mi|
Salem County | 033 | Salem | Pennsville Township 13,332 | 1694 | Un o ddwy sir wreiddiol a grëwyd yng Ngorllewin Jersey | A O'r gair Hebraeg shalom (שׁלום) sy'n golygu "heddwch" | 195.51 | 62,607 | ( 875 km2) |
338 sq mi|
Somerset County | 035 | Somerville | Franklin Township 62,300 | 1688 | Middlesex County | Gwlad yr Haf, Lloegr | 1,060.47 | 331,164 | ( 790 km2) |
305 sq mi|
Sussex County | 037 | Newton | Vernon Township 23,867 | 1753 | Morris County | Swydd Sussex, Lloegr | 286.5 | 140,799 | ( 1,349 km2) |
521 sq mi|
Union County | 039 | Elizabeth | Elizabeth 124,969 | 1857 | Essex County | Undeb yr Unol Daleithiau, a oedd yn cael ei fygwth gan yr anghydfod ynghylch caethwasiaeth | 5,208.73 | 558,067 | ( 267 km2) |
103 sq mi|
Warren County | 041 | Belvidere | Phillipsburg 14,791 | 1824 | Sussex County | Y Cadfridog Joseph Warren (1741–1775), a bu farw ym Mrwydr Bunker Hill | 303.61 | 105,779 | ( 927 km2) |
358 sq mi
Cefndir
golyguMae 21 sir yn New Jersey. Gyda'i gilydd mae'r siroedd hyn yn cynnwys 250 o fwrdeistrefi, 52 o ddinasoedd, 15 tref, 244 trefgordd, a 4 pentref. [11] Yn New Jersey, mae sir yn lefel lywodraeth leol rhwng y dalaith a'r corfforaethau lleol. Mae llywodraeth sir yn New Jersey yn cynnwys Bwrdd o Rydd-ddeiliaid Dethol, [12] siryf, clerc, a dirprwy (sy'n gyfrifol am brofiant diwrthwynebiad ac arferol), y mae pob un ohonynt yn cael eu hethol. Bydd gan siroedd a drefnir o dan y Gyfraith Siarter Sirol Ddewisol asiantaeth sirol etholedig. Yn draddodiadol, mae siroedd yn cyflawni dyletswyddau dan orchymyn y dalaith fel cynnal a chadw carchardai, parciau a ffyrdd penodol. Gelwir safle gweinyddiaeth a llysoedd sir yn "sedd y sir".
Hanes
golyguLlywodraethwyd New Jersey gan ddau grŵp o berchnogion fel dwy diriogaeth wahanol, East Jersey a West Jersey, rhwng 1674 a 1702. Crëwyd siroedd cyntaf New Jersey fel ardaloedd gweinyddol yn y ddwy diriogaeth, gyda East Jersey wedi'i rannu ym 1675 i siroedd Bergen, Essex, Middlesex a Monmouth, tra bod siroedd cychwynnol West Jersey, Burlington a Salem, yn dyddio i 1681. [5] Y sir ddiweddaraf a grëwyd yn New Jersey yw Union County, a grëwyd ym 1857 ac a enwyd ar ôl undeb yr Unol Daleithiau pan oedd y Rhyfel Cartref ar fin digwydd. Mae enwau siroedd New Jersey yn deillio o sawl ffynhonnell, er bod y rhan fwyaf o'i siroedd wedi'u henwi ar ôl enwau lleoedd yn Lloegr a Chymru ac arweinwyr amlwg yn y cyfnodau trefedigaethol a chwyldroadol. Bergen County yw'r sir fwyaf poblog, yn ôl Cyfrifiad 2010, gyda 905,116 o bobl, a Salem County yw'r lleiaf poblog gyda 66,083 o bobl.
Map dwysedd poblogaeth
golyguMae lliwiau gwahanol yn dynodi dwysedd trymach.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "How Many Counties are in Your State?". web.archive.org. 2009-04-22. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-22. Cyrchwyd 2020-04-21.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ "FIPS Publish 6-4". National Institute of Standards and Technology. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-09-29. Cyrchwyd 2007-04-11.
- ↑ NDR FIPS Codes for New Jersey[dolen farw] adalwyd 30 Ebrill 2020
- ↑ 4.0 4.1 4.2 NACo – Find a county adalwyd 30 Ebrill 2020
- ↑ 5.0 5.1 "New Jersey County Formation". genealogytrails.com. Cyrchwyd 2020-04-30.
- ↑ Hutchinson, Viola L. The Origin of New Jersey Place Names, New Jersey Public Library Commission, May 1945. Accessed November 14, 2015.
- ↑ https://www.census.gov/quickfacts/fact/table/NJ/PST045218
- ↑ A Brief History of Camden County adalwyd 30 Ebrill 2020
- ↑ History Mercer County, NJ adalwyd 30 Ebrill 2020
- ↑ Purvis, T. (2004, Medi 23). Morris, Lewis (1671–1746), politician in America. Oxford Dictionary of National Biography. Adalwyd 29 Ebrill 2020
- ↑ "New Jersey by Place and County Subdivision - GCT-PL. Race and Hispanic or Latino: 2000". web.archive.org. 2009-11-22. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-02-12. Cyrchwyd 2020-04-30. no-break space character in
|title=
at position 82 (help) - ↑ Coppa, Frank J. (2000). County government: a guide to efficient and accountable government. Greenwood Publishing Group. tud. 39–40. ISBN 978-0-275-96829-8.
Alabama · Alaska · Arizona · Arkansas · Califfornia · Colorado · Connecticut · De Carolina · De Dakota · Delaware · Efrog Newydd · Florida · Georgia · Gogledd Carolina · Gogledd Dakota · Gorllewin Virginia · Hawaii · Idaho · Illinois · Indiana · Iowa · Kansas · Kentucky · Louisiana · Maine · Maryland · Massachusetts · Mecsico Newydd · Michigan · Minnesota · Mississippi · Missouri · Montana · Nebraska · Nevada · New Hampshire · New Jersey · Ohio · Oklahoma · Oregon · Pennsylvania · Rhode Island · Tennessee · Texas · Utah · Vermont · Virginia · Washington · Wisconsin · Wyoming · Rhestr cyfansawdd o bob sir yn yr UD