Rhod Gilbert
Digrifwr Cymreig yw Rhod Gilbert (ganwyd 18 Hydref 1968) a gychwynodd fel digrifwr stand-yp cyn mynd ymlaen i ymddangos a chyflwyno nifer o raglenni teledu a radio.
Rhod Gilbert | |
---|---|
Ganwyd | Rhodri Paul Gilbert 18 Hydref 1968 Caerfyrddin |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | digrifwr, digrifwr stand-yp |
Fe'i enwebwyd am Wobr Newydd-Ddyfodiad Gorau Perrier yn 2005 ac yn 2008, fe'i enwebwyd am y brif Wobr Comedi Caeredin.[1]
Bywyd cynnar ac addysg
golyguGanwyd Rhodri Paul Gilbert yng Nghaerfyrddin yn un o dri o blant. Roedd ei fam a'i dad yn athrawon. Aeth i Ysgol Maridunum ac yna ymlaen i astudio ieithoedd ym Mhrifysgol Caerwysg. Am y tair wythnos gyntaf yn y coleg roedd ei swildod cymaint fel na allodd fwyta gyda gweddill y myfyrwr yn y cantîn, na gwneud ffrindiau gyda'r myfyriwr yn y stafell drws nesaf.
Gyrfa
golyguWedi iddo raddio teithiodd cryn dipyn, yn enwedig gwledydd Awstralia ac Asia. Dychwelodd i Gaerfyrddin ar ôl blwyddyn a chafodd ei benodi i wneud gwaith gweinyddol yn y Y Swyddfa Gymreig.[2]
Dechreuodd weithio fel digrifwr proffesiynol yn 2002.[3]
Teledu
golygu- Rhod Gilbert's Teen Tribes
- Rhod Gilbert's Work Experience (2010-)
- Ask Rhod Gilbert (2010-2011)
- Never Mind the Buzzcocks (2014-2015)
- The Apprentice: You're Fired! (2016-2018)
Radio
golygu- The Rhod Gilbert Radio Show
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Armstrong, Stephen (24 Awst 2008). "Why the if.comedy shortlist is intriguingly short". The Times. London, UK. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-03-23. Cyrchwyd 23 Tachwedd 2009. Unknown parameter
|subscription=
ignored (help) - ↑ "Rhod Gilbert". BBC Wales Arts. Cyrchwyd 23 Tachwedd 2012.
- ↑ the if.comedy shortlist is intriguingly short gan The Times; 2008-08-24.[dolen farw]
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan swyddogol Archifwyd 2007-06-19 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Sioe BBC Radio Wales