Rhodri ap Dyfrig
Cyn Gomisiynydd Cynnwys Arlein S4C, blogiwr, ac arbenigwr yn y cyfryngau cymdeithasol Cymraeg yw Rhodri ap Dyfrig (ganwyd 28 Mehefin 1977) a adnabyddir hefyd fel Nwdls. Mae'n un o sefydlwyr y grwp technoleg gwybodaeth Cymraeg Hacio'r Iaith, a sefydlodd ar y cyd gyda Carl Morris a Rhys Wynne ar 30 Ionawr 2010.
Rhodri ap Dyfrig | |
---|---|
Ganwyd | 28 Mehefin 1977 Dolgellau |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Addysg | doethuriaeth |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ymgynghorydd TG, blogiwr |
Cyflogwr |
Teulu
golyguGaned Rhodri yn Nolgellau yn fab i Dyfrig Siencyn, arweinydd Cyngor Gwynedd ers 2017 a'i wraig Rhian Owen (1952-1994). Mae'n frawd i'r gohebydd ac awdur Elliw Gwawr. Safodd ei daid tadol J L Jenkins fel ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Meirionnydd yn etholiad 1966.
Gyrfa
golyguWedi graddio mewn iaith a chyfathrebu ym Mhrifysgol Caerdydd (1995 – 1998) gweithiodd am gyfnod i Sgrin Cymru Wales (2002 - 2005) ac fel ymchwilydd gyda Mercator Media (Awst 2005 - Mai 2008). Cwbwlhaodd ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2014 gyda thraethawd ar Gydgyfeiriant cyfryngol a'r economi ddigidol: Asesu dulliau cyfranogol a thorfol o gynhyrchu cyfryngau mewn ieithoedd lleiafrifol. Rhwng Chwefror 2014 a Thachwedd 2015 bu'n Gymrawd Technolegau Creadigol yn Aberystwyth; dyma'r cyfnod pan sefydlodd Nwdls Cyf, a ddaeth i ben yn Rhagfyr 2015.
Yn Rhagfyr 2015 fe'i penodwyd yn Gynhyrchydd Arlein (Cyfryngau Cymdeithasol) BBC Cymru, gan weithio o Gaerdydd, a gadawodd yn Awst 2016 pan benodwyd ef yn Gomisiynydd Cynnwys Arlein S4C.
Thesis ei ddoethuriaeth
golyguCwbwlhaodd ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2014 gyda thraethawd ar: Cydgyfeiriant cyfryngol a'r economi ddigidol: Asesu dulliau cyfranogol a thorfol o gynhyrchu cyfryngau mewn ieithoedd lleiafrifol. Noda'r cyflwyniad i'r papur:[1]
“ | Prif amcan y traethawd hwn yw asesu'r defnydd o ddulliau cyfranogol o gynhyrchu cyfryngau mewn ieithoedd lleiafrifol. Ymysg yr astudiaethau achos mae prosiect ymchwil hanes torfol o ddefnydd y Gymraeg ar y we rhwng 1989-2012. Drwy asesu'r hanes a'r dull torfol rhoddir trosolwg newydd ar weithgaredd y gymuned Gymraeg ar y we. Prif gyfraniad y traethawd yw'r cyfraniad at gofnodi hanes y we Gymraeg a'r ymchwil empirig gwreiddiol o ddulliau cynhyrchu cyfryngau cyfranogol yn y Gymraeg a thair iaith leiafrifol arall, gan nodi'r cymhlethdodau ymarferol, ieithyddol a gwleidyddol sy'n codi o ddefnyddio'r dulliau hyn. Hawlir nad yw damcaniaethau eingl-ganolog yn esbonio'n ddigonol effeithiau a phrosesau diwylliannol cyfranogiad a thorfoli mewn cymdeithasau amlieithog a bod angen gwell ystyriaeth o ddiwylliannau o gyfranogiad, cyfyngiadau mewn cyfalaf cyfranogol a chymhelliadau eraill megis atgyfnerthu hunaniaeth ieithyddol. | ” |
Arloesi
golyguFe'i rhestrir gan Brifysgol Aberystwyth ymhlith y 50 person mwyaf dylanwadol o fewn Addysg Uwch sy'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yng Nghymru.[2] Cofnododd hanes y genre gwyddonias mewn erthygl o'r enw 'Cymroddyfodoliaeth' ar wefan 'Medium' yn Nhachwedd 2014.[3] sy'n defnyddia’r hashnod #cymroddyfodol ar Twitter i roi sylw i'r genre yma yn y Gymraeg. Mae hefyd yn un o sefydlwyr y grwp technoleg gwybodaeth Cymraeg Hacio'r Iaith, a sefydlodd ar y cyd gyda Carl Morris a Rhys Wynne ar 30 Ionawr 2010. Mae ei linell-amser Hanes y We Gymraeg, a gyhoeddwyd yn 2014, yn cofnodi rhai o'r cerrig milltir pwysig yn hanes y we.[4]
Dolennau allanol
golygu- Rhodri ap Dyfrig ar Twitter
- nwdls.net Archifwyd 2018-12-20 yn y Peiriant Wayback
- apdyfrig.com Archifwyd 2018-08-22 yn y Peiriant Wayback
- haciaith.com
- golygiadau ar github.com
- ynyffram.org Archifwyd 2010-09-22 yn y Peiriant Wayback
- rhegiadur.com Archifwyd 2020-11-16 yn y Peiriant Wayback
- fideobobdydd.com Archifwyd 2021-03-02 yn y Peiriant Wayback
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Prifysgol Aberystwyth; adalwyd 12 Awst 2018.
- ↑ Gwefan Prifysgol Aberystwyth;[dolen farw] teitl: 'Dylanwad Dr Rhodri ap Dyfrig'; adalwyd 11 Awst 2018.
- ↑ medium.com; gwefan medium.com;] adalwyd 11 Awst 2018.
- ↑ Llyfr; teitl: The Routledge Companion to Global Internet Histories; Google Books; gol: Gerard Goggin, Mark McLelland. adalwyd 11 Awst 2018.