Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig


Safle natur sy'n dod dan lefel isaf cadwraeth yng ngwledydd Prydain yw Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SDGA neu SoDdGA). Mae'n dynodi safle sydd â bywyd gwyllt, planhigion, daeareg neu forffoleg arbennig. Yn 2006 roedd 1,019 SoDdGA yng Nghymru: cyfanswm o 257,251 hectar (12.1% o holl arwynebedd Cymru).

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
SDdGA Coedydd ac Ogofâu Elwy a Meirchion, ger Llanelwy
Enghraifft o'r canlynoldynodiad o ran cadwraeth, math o ddynodiad, catalog Edit this on Wikidata
Mathardal gadwriaethol, treftadaeth naturiol Edit this on Wikidata
Gwladgwlad
GweithredwrCyfoeth Naturiol Cymru, NatureScot, Natural England Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yng Nghymru Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am sefydlu a chadw Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Y corff cyfatebol yn Lloegr yw Natural England, yn yr Alban: NatureScot (Scottish Natural Heritage gynt), ac yng Ngogledd Iwerddon: yr Environment and Heritage Service. Mae'r safle lleiaf (0.004ha) ym Mhenfro mewn hen fwthyn 150 mlwydd oed a ddynodwyd er mwyn gwarchod yr ystlum pedol lleiaf Rhinolophus hipposideros. Mae'r safle mwyaf (24,321 ha) ar Fynydd y Berwyn: rhostir enfawr lle ceir adar ucheldir prin.

Sylfaen cyfreithiol penodi'r safleoedd hyn yw Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 a 1985 yn ogystal â Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.

Rhestr o safleoedd

golygu

Dolen allanol

golygu
  NODES
os 4