Mae salmonela /ˌsælməˈnɛlə/ yn fath o bacteria siâp gwialen (basilws) sy'n aelod o'r teulu Enterobacteriaceae. Y ddwy rywogaeth o Salmonela yw Salmonela enterica a Salmonela bongori. Salmonela enterica yw'r rhywogaeth math, a caiff ei rannu i chwe is-rywogaeth sy'n cynnwys dros 2,500 o seroteipiau.  

Salmonela
Math o gyfrwngtacson Edit this on Wikidata
Safle tacsongenws Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonEnterobacteriaceae Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Salmonella yn rywogaeth nad yw'n ffurfio sborau, sef motile enterobacteria yn bennaf gyda diamedrau celloedd rhwng oddeutu 0.7 a 1.5 µm, a hyd rhwng 2 a 5 µm, a peritrichous flagella (o amgylch corff y cell i gyd).[1] Chemotroffau ydynt, sy'n cael eu hegni o adweithiau rhydwythiad ocsidiad drwy ddefnyddio ffynonellau organig. Maent hefyd yn anaeorbau goddefol, sy'n gallu cynhyrchu ATP gydag ocsigen ("yn aerobig") pan mae ar gael; neu phan nad oes ocsigen ar gael, drwy ddefnyddio derbynwyr neu eplesu ("yn anaerobig").  Caiff yr is-rywogaeth S. enterica eu canfod ar draws y byd ym mhob anifail gwaed cynnes ac yn yr amgylchedd. Mae S. bongori wedi'i gyfyngu i anifeiliaid gwaed oer, yn arbennig ymlusgiaid.[2]

Mae rhywogaethau Salmonela yn bathogenau mewngellol:[3] mae rhai seroteipiau'n achosi salwch. Gall seroteipiau nad ydynt yn deiffoidaidd gael eu trosglwyddo o anifeiliaid i bobl ac o bobl i bobl. Maent gan amlaf yn effeithio ar y coluddion yn unig, ac yn achosi gwenwyn bwyd Salmonela; mae'r symptomau yn mynd heb unrhyw wrthfiotigau. Fodd bynnag, yng ngweldydd Affrica is y Sahara gallant achosi clefyd parateiffoid, sydd angen triniaeth frys gyda gwrthfiotigau. Gall seroteipiau teiffoidaidd dim ond cael eu trosglwyddo rhwng pobl, a gallant achosi gwenwyn bwyd Salmonela, clefyd teiffoid a chlefyd parateiffoid.[4] Mae clefyd Teiffoid yn digwydd pan fo Salmonela yn cyrraedd y gwaed - y ffurf teiffoidaidd; neu yn ogystal yn lledaenu drwy'r corff, yn effeithio ar yr organnau, ac yn dangos endotocsinau - y ffurf septig. Gall hyn arwain at sioc hypofolemig a sioc septig, a all arwain at farwolaeth, ac mae angen gofal dwys gan gynnwys gwrthfiotigau.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Fabrega, A.; Vila, J. (2013). "Salmonella enterica Serovar Typhimurium Skills To Succeed in the Host: Virulence and Regulation". Clinical Microbiology Reviews 26 (2): 308–341. doi:10.1128/CMR.00066-12. ISSN 0893-8512. PMC 3623383. PMID 23554419. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3623383.
  2. Tortora GA (2008). Microbiology: An Introduction] (arg. 9th). Pearson. tt. 323–324. ISBN 8131722325.
  3. Jantsch, J.; Chikkaballi, D.; Hensel, M. (2011). "Cellular aspects of immunity to intracellular Salmonella enterica". Immunological Reviews 240 (1): 185–195. doi:10.1111/j.1600-065X.2010.00981.x. PMID 21349094.
  4. Ryan I KJ, Ray CG (editors) (2004). Sherris Medical Microbiology (arg. 4th). McGraw Hill. tt. 362–8. ISBN 0-8385-8529-9.CS1 maint: extra text: authors list (link)CS1 maint: Extra text: authors list (link)
  NODES
os 11
text 2