Uned llywodraeth leol yw sir neu swydd.

Siroedd Cymru wedi'r Deddfau Uno 1536 a 1542

Etymoleg

golygu

Daw'r gair 'sir' o'r Saesneg shire.[1] Mae'r gair 'shire' yn hŷn na'r term mwy cyffredin am sir yn y Saesneg heddiw, sef county ac yn deillio o drefn llywodraeth leol Eingl-Sacsoneg.[2] Mae'r term 'county' yn deillio o'r Hen Ffrangeg conté neu cunté sy'n dynodi awdurdodaeth o dan sofraniaeth 'count' (iarll) neu viscount (is-iarll).[3] Diddorol yw nodi bod y gair Cymraeg 'iarll' yn dod o'r Hen Norseg, jarl a gwelir wrth yn y Saesneg fel 'earldom'.

Siroedd Cymru

golygu

Roedd gan Gymru ei system llywodraeth leol gynhenid ei hun lle trefnwyd is-adrannau gweinyddol fewn i: Cantref (lluosog: cantrefi) a Cwmwd (lluosog: cymydau).

Gyda'r goncwest Seisnig yn gyntaf crëwyd saith sir newydd wedi lladd Llywelyn ap Gruffudd yn 1282 a meddiannu ei diroedd (Sir Fôn, Sir Gaernarfon, Sir Feirionnydd, Sir Aberteifi, Sir Gaerfyrddin i ychwanegu ar Sir Benfro a grëwyd yn sir yn 1138. Yna wedi'r Deddfau Uno Cymru a Lloegr crëwyd y gweddill o'r 'Hen Siroedd' sef Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Sir Drefaldwyn, Sir Faesyfed, Sir Frycheiniog, Sir Forgannwg a Sir Fynwy o hen Arglwyddiaethau'r Mers.

Ad-drefnwyd hen siroedd Cymru wedi Deddf Llywodraeth Leol 1972 ac yn 1974 i crëwyd wyth sir newydd: Gwynedd, Clwyd, Powys, Dyfed, Gorllewin Morgannwg, De Morgannwg, Morgannwg Ganol, a Gwent. O dan y cynghorau sir yma roedd cynghorau dosbarth gyda sawl un wedi ei seilio ar yr hen siroedd blaenorol e.e. Cyngor Dosbarth Ceredigion.

Wedi Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 cafwyd ad-drefniad arall gan greu 22 uned lywodraeth leol a elwir yn awdurdodau unedol neu, ar lafar ac yn swyddogol, yn 'Sir' neu 'Bwrdeistref Sirol'.

Rhyngwladol

golygu
 
Siroedd USA
 
Siroedd Estonia

Yn wahanol i unedau llywodraeth leol eraill fel Llywodraethiaethau sydd bellach yn dueddol o'i cysylltu ag elfen o apwyntio Llywodraethwyr gan y llywodraeth ganolog neu filwrol, mae i'r cysyniad o sir awgrymiad cryfach o lywodraeth ddemocrataidd wedi ei hethol yn lleol a gydag hawliau yn annibynnol o'r canol.

Er bod y term yn cael ei gysylltu'n bennaf â gwledydd Prydain ac Iwerddon, ceir siroedd/swyddi, neu unedau sy'n cyfateb yn agos iddynt, mewn sawl gwlad, yn cynnwys:

Gweler hefyd

golygu


Cyfeiriadau

golygu
  1.  sir. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 10 Awst 2022.
  2. https://www.visionofbritain.org.uk/types/type_page.jsp?unit_type=ANC_CNTY
  3. The Oxford Dictionary of English Etymology, C. W. Onions (Ed.), 1966, Oxford University Press
Chwiliwch am sir
yn Wiciadur.
  Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  NODES