Math o gerddoriaeth sy'n hanu o Jamaica yw Ska, a ddaeth i'r amlwg yn gyntaf yn ystod y 1950-60au. Cerddoriaeth ydyw sy'n cyfuno dylanwadau Sbaenaidd/Caribïaidd gyda rhythmau Affricanaidd. Mae'r pwyslais ar yr 'off-beat' bob tro h.y. mae'n groes-acennog iawn.

Cyfnodau

golygu

Ceir tri chyfnod o Ska:

1. Jamaica; 1960au - Cerddoriaeth debyg i'r hyn a adnabyddir heddiw fel Reggae, gydag artistiaid blaenllaw fel Prince Buster, Skatalites ar Maytals.

2. Lloegr; 1980au - Caiff y cyfnod hwn hefyd ei adnabod fel 2 Tone, ar ôl y cwmni recordiau (2 Tone) a oedd yn flaenllaw gyda'r bandiau hyn. Roedd y sin wedi'i lleoli yn bennaf yng Nghoventry, ac roedd y gerddoriaeth yn gyflym iawn gyda dylanwadau pyncaidd. Ymysg y prif artistiaid roedd The Specials, The Selecter, Madness a Bad Manners. Roedd y bandiau'n hoffi gwneud testun caneuon yn wleidyddol, gan fod yn wrth-hiliaeth. Mae'r glasur 'Ghost Town' gan Y Specials yn nodi cyfnod 2 Tone a dechrau cyfnod o derfysg yn Lloegr. Yn yr iaith Gymraeg, dilynwyd yr un arddull gan grŵp Y Ficar o'r Felinheli.

3. California; 1995+ - Roedd y bandiau yma'n cymysgu fwy gyda dylanwadau pyncaidd, gan ddefnyddio llawer o ystumio (distortion) yn eu caneuon. Doedd y sin ddim yn amlwg iawn, heblaw am fand No Doubt a ddaeth yn un o fandiau enwoca'r byd wedi'r albwm 'Tragic Kingdom'. Ymysg y bandiau eraill roedd Reel Big Fish, Less Than Jake a'r Mighty Mighty Bosstones.

  NODES