St. Louis, Missouri
Dinas annibynnol yn nhalaith Missouri, Unol Daleithiau America yw St. Louis. Mae ganddi boblogaeth o 318,069,[1] sy'n ei gwneud yr ail dref fwyaf yn y talaith, ac mae ei harwynebedd yn 171.3 km².[2] Cafodd ei sefydlu (neu ei ymgorffori) yn y flwyddyn 1764.
Math | dinas fawr, dinas annibynnol, dinas yn yr Unol Daleithiau |
---|---|
Enwyd ar ôl | Louis IX, brenin Ffrainc |
Poblogaeth | 301,578 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Tishaura Jones |
Cylchfa amser | UTC−06:00, Cylchfa Amser Canolog, UTC−05:00 |
Gefeilldref/i | Bologna, Bogor, Brčko, Dún na nGall, Gaillimh, Lyon, Nanjing, Saint-Louis, São Luís, Samara, San Luis Potosí, Stuttgart, Suwa, Szczecin, Wuhan, Yokneam Illit, Swydd Donegal, Georgetown, Rosario |
Daearyddiaeth | |
Sir | Missouri |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 171.02625 km², 171.128084 km², 171.458858 km², 159.89565 km², 11.563208 km² |
Uwch y môr | 149 metr |
Gerllaw | Afon Mississippi |
Yn ffinio gyda | St. Louis County, Madison County, St. Clair County |
Cyfesurynnau | 38.6264°N 90.1994°W |
Cod post | 63101–63113, 63115, 63116–63118, 63120, 63123, 63136, 63137, 63139, 63143, 63147, 63155 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer St. Louis |
Pennaeth y Llywodraeth | Tishaura Jones |
Dewiswyd safle’r ddinas yn y fan lle mae Afon Missouri’n ymuno âg Afon Mississippi, i fod yn safle marchnata crwyn ym 1764 gan Pierre Laclede Liguest ac Auguste Chouteau. Adeiladwyd pentref, wedi enwi ar ôl brenin Louis IX o Ffrainc, ym 1765. Daeth yr ardal yn eiddo i Sbaen ym 1770, wedyn yn ôl i Ffrainc, ac ar ôl Pwrcas Louisiana ym 1803, yn rhan o’r Unol Daleithiau. Erbyn yr 1890au, roedd St Louis yn bedwerydd ymysg dinasoedd yr Unol Daleithiau ar rhan maint. Daeth Ffair y Byd a’r Gemau Olympaidd i’r ddinas ym 1904, ac ymwelodd dros 20 miliwn o bobl.[3]
Symudodd miloedd o bobl duon o daleithiau’r De rhwng y rhyfeloedd byd. Erbyn 1940, poblogaeth y ddinas oedd 800,000, ac erbyn 1950, 856,000. Roedd tiriogaeth y ddinas yn llawn, a symudodd pobl i Sir St Louis. Erbyn 1980, roedd poblogaeth y ddinas wedi syrthio i 450,000, er oedd canol y ddinas yn lle bywiog.. Adeiladwyd stadiwm pêl-fâs Cardinals St Louis ac un arall ar gyfer Rams St Louis, y tîm pêl-droed Americanaidd, ac adeiladwyd rheilffordd Metrolink St Louis.[3]
Gefeilldrefi St. Louis
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Table 1: 2010 Munnicipality Population". 2010 Population (CSV)
|format=
requires|url=
(help). United States Census Bureau, Rhaniad y boblogaeth. 2010-03-24. Unknown parameter|[url=
ignored (help); Missing or empty|url=
(help);|access-date=
requires|url=
(help) - ↑ Poblogaeth St. Louis, Missouri Archifwyd 2006-08-25 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 22 Mehefin 2010
- ↑ 3.0 3.1 Gwefan y ddinas
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan Dinas St. Louis