Swyddfa Cymru
adran Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am faterion Cymreig
Sefydlwyd Swyddfa Cymru ar 1 Gorffennaf 1999 yn dilyn sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan gymryd lle'r hen Swyddfa Gymreig a oedd â chyfrifoldebau eang cyn datganoli. O ganlyniad mae cyfrifoldebau Swyddfa Cymru yn llawer llai, wedi eu cyfyngu i'r ychydig gyfrifoldebau sydd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru nas trosglwyddwyd yn barod i'r Cynulliad ac i sicrhau cyllid i Gymru fel rhan o setliad y gyllideb flynyddol.
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres: |
Cymru o fewn y DU
Cymru o fewn yr UE
Gweithgarwch gwleidyddol
|
|
Enghraifft o'r canlynol | Adrannau Llywodraeth y Deyrnas Unedig |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1998 |
Pennaeth y sefydliad | Ysgrifennydd Gwladol Cymru |
Rhagflaenydd | Y Swyddfa Gymreig |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | https://www.gov.uk/government/organisations/wales-office |
Cyswllt allanol
golygu