Thelma Adams
Menyw fusnes a ffermwr o Gymraes oedd Thelma Adams (10 Tachwedd 1938 – Rhagfyr 2024).[1] Roedd yn adnabyddus fel un o sylfaenwyr y cwmni Caws Cenarth.[2]
Thelma Adams | |
---|---|
Ganwyd | 10 Tachwedd 1938 |
Bu farw | Rhagfyr 2024 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor, person busnes, ffermwr |
Magwyd Thelma ym Mhant-y-blaidd ger Crymych mewn tŷ tafarn.[3] Roedd Thelma a'i gŵr Gwynfor yn ffermio ar Fferm Glyneithinog, Lancych, Sir Gaerfyrddin. Yn 1984, roedd cynllun i gyflwyno cwotâu llaeth yn yr Undeb Ewropeaidd, a fyddai'n cyfyngu faint o laeth y gallai ffermwr ei werthu bob blwyddyn heb dalu ardoll. Daeth Thelma yn enwog ar ôl gwisgo fel Cleopatra ac eistedd mewn bath llawn llaeth oer i brotestio yn erbyn prisiau poteli llaeth.
Roedd teuluoedd Thelma a'i gŵr wedi bod yn cynhyrchu caws ers 1903. Yn 1986, ffurfiwyd y cwmni Caws Cenarth er mwyn gwneud defnydd o'r llaeth a'i werthu yn ehangach. Yn fwy diweddar, pasiwyd yr awenau i'w mab Carwyn.
Ym 1986 enillodd gystadleuaeth Llywodraeth Cymru, Edible Ideas ac ym 1999 enillodd deitl Gwraig Ffermdy y Flwyddyn.[3] Mae'r cwmni yn cyflenwi caws i Waitrose ac wedi derbyn Gwarant Frenhinol.[4]
Yn 2012, ysgrifennodd Thelma ei hunangofiant - Gwlad o Gaws a Llaeth. Bu farw yn 86 mlwydd oed.[2]
Dolenni allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "CAWS CENARTH CHEESE LIMITED filing history - Find and update company information - GOV.UK". find-and-update.company-information.service.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-12-15.
- ↑ 2.0 2.1 "Thelma Adams, un o sefydlwyr cwmni Caws Cenarth, wedi marw yn 86 oed". newyddion.s4c.cymru. 2024-12-15. Cyrchwyd 2024-12-15.
- ↑ 3.0 3.1 "Sylfaenydd Caws Cenarth, Thelma Adams wedi marw yn 86 oed". BBC Cymru Fyw. 2024-12-15. Cyrchwyd 2024-12-15.
- ↑ "Caws Cenarth Cheese Ltd | Royal Warrant Holders Association". www.royalwarrant.org. Cyrchwyd 2024-12-15.