Tro-tro

tacsi-fws, Ghana

Yn Ghana a gwledydd cyfagos ceir tro tros fel ffurf boblogaidd o drafnidiaeth. Maent yn tacsi-fws neu bws mini preifat sy'n teithio ar hyd llwybr benodedig gan gychwyn unwaith mae'r cerbyd yn llawn.[1]

Tro tro yn Accra.

Ceir gyrrwr a ticedwr a elwir yn aml gan y gair Saesneg, "mate" sy'n casglu tocynnau, gweiddi'r lleoliadau. Bydd nifer o'r cerbydau tro-tro wedi eu haddurno gan sloganau a dywediadau, yn aml dywediadau crefyddol.[2] Prin yw'r tro-tro sy'n teithio ar ddydd Sul.[3]

Poblogrwydd

golygu
 
tro-tro, Awst 2017

Defnyddir y tro-tro gan oddeutu 70% o gymudwyr Ghana. Yn 2010 y tro-tro oedd y ffordd mwyaf poblogaidd i bobl deithio i'r gwaith ac i siopa.[4] Ers 2008, mae bysiau mawr hefyd yn cynnid gwasanaeth trafnidiaeth cyhoeddus ym mhrifddinas Ghana, Accra.[5] a caent eu defnyddio gan bobl o bob dosbarth cymdeithasol.[6]

Rheoleiddio

golygu

Yn Ghana caiff y tro-tro eu trwyddedi gan y llywodraeth, ond mae'r diwydiant ei hun yn hunan-drwyddeig.[7] Yn 2008 doedd dim awdurdod trafnidiaeth annibynnol yn Accra, Ghana.[8]

Yn sgil diffyg rheoleiddio gwladwriethol llawn, bydd grwpiau a enwir yn 'syndicates' yn goruchwilio gwasanaethau tacsi-fws fel y tro-tro. Gall y syndicatiaid yma bennu ffioedd, llwybrau, gorsafoedd a tefynellau, a phenderfynnu ar tâl teithio.[9]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. *For tro tro mates, see Report from the Field: The Tro-Tro – An Essential Mode of Transport in Accra, Ghana by Susan Blaustein. blogs.ei.columbia.edu, 9.29.2010
  2. Ghana: The Bradt Travel Guide (page 69) Philip Briggs. Bradt Travel Guides, 2007. 4th ed. 416 pages. 1841622052, 9781841622057 (Google Books)
  3. City of Accra, Ghana consultative citizens' report card (page 113) Report No. 55117-GH. The World Bank. 2010/06/01.
  4. group=AICD name=x
  5. Sarfo, J. O. (2016). ‘Bone-shakers’ and contemporary ‘Tro-Tro’ in Ghana: Implications for traffic and transport psychology. Africa: History and Culture, 1(1), 15-20. Retrieved from: http://ejournal48.com/pdf.html?n=1472719700.pdf[dolen farw]
  6. Report from the Field: The Tro-Tro – An Essential Mode of Transport in Accra, Ghana by Susan Blaustein. blogs.ei.columbia.edu, 9.29.2010
  7. group=AICD name=cityregs
  8. group=AICD name=synd2
  NODES