Umbria
Rhanbarth yng nghanolbarth yr Eidal yw Umbria neu weithiau yn Gymraeg Wmbria.[1] Periwgia (Eidaleg: Perugia) yw'r brifddinas; dinas bwysig arall yw Terni, ac mae Assisi yn y rhanbarth yma.
Math | rhanbarthau'r Eidal |
---|---|
Enwyd ar ôl | Umbri |
Prifddinas | Perugia |
Poblogaeth | 882,015 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Donatella Tesei |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Bethlehem |
Nawddsant | Ffransis o Assisi |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Central Italy |
Gwlad | Yr Eidal |
Arwynebedd | 8,456 km² |
Uwch y môr | 493 metr |
Yn ffinio gyda | Toscana, Marche, Lazio |
Cyfesurynnau | 42.98°N 12.57°E |
IT-55 | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Umbria |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Rhanbarthol Umbria |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | arlywydd Umbria |
Pennaeth y Llywodraeth | Donatella Tesei |
Mae Umbria yn ffinio ar ranbarthau Toscana yn y gorllewin, Marche yn y dwyrain a Lazio yn y de. Ceir mynyddoedd yr Apenninau yn nwyrain y dalaith; y copa uchaf yw Monte Vettore, 2,476 medr o uchder. Mae afon Tiber yn llifo trwy'r rhanbarth ac yn ffurfio'r ffin â Lazio.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y rhanbarth boblogaeth o 884,268.[2]
Cafodd y rhanbarth ei enw oddi wrth lwyth yr Umbri, a ymsefydlodd yn yr ardal yn y 6g CC. Yn ddiweddarach, concrwyd llawer o'r diriogaeth gan yr Etrwsciaid, yna meddiannwyd yr ardal gan y Rhufeiniaid.
Rhennir y rhanbarth yn ddwy dalaith a enwir ar ôl eu canolfannau gweinyddol, sef:
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Geiriadur yr Academi, [Umbria].
- ↑ City Population; adalwyd 23 Rhagfyr 2020
Dolenni allanol
golygu- (Eidaleg) Gwefan swyddogol y Rhanbarth Archifwyd 2011-02-11 yn y Peiriant Wayback