Unedau sylfaenol SI
Saith uned fesur a ddiffinnir gan y System Ryngwladol o Unedau yw'r unedau sylfaenol SI. Diffinnir y saith uned sylfaenol fel dimensiynau sy'n annibynnol ar ei gilydd. Gall holl unedau eraill y system (yr unedau deilliadol) ddeillio o'r saith hyn.
Symbol | Enw | Mesur |
---|---|---|
s | eiliad | amser |
m | metr | hyd |
kg | cilogram | màs |
A | amper | cerrynt trydanol |
K | kelvin | tymheredd |
mol | môl | maint o ddefnydd |
cd | candela | cryfder golau |
Dyma'r unedau a'r meintiau y maent yn eu mesur: