Wicipedia:Cymorth iaith
Croeso i dudalen cymorth iaith Wicipedia. Os oes gennych unrhyw gwestiwn ynglŷn â'r iaith Gymraeg -- treiglo, sillafu, gramadeg neu rywbeth arall -- gofynnwch yma. Am gwestiynau cyffredinol neu dechnegol, ewch i'r Caffi os gwelwch yn dda. Ceir nodiadau ar ysgrifennu Cymraeg cywir ar y dudalen canllawiau iaith - efallai y byddant yn trin yr union bwnc sydd yn ateb eich gofyn.
I ychwanegu cwestiwn, cliciwch yma i ddechrau pennawd newydd, a theipiwch eich neges. Cofiwch lofnodi'r neges drwy ychwanegu pedair tilde (~~~~) ar y diwedd, os gwelwch yn dda.
Gwelwch gornel y dysgwyr hefyd.
Os oes angen cymorth ag ysgrifennu, gramadeg, a sillafu yn y Gymraeg arnoch, mae modd defnyddio Cysill Ar-lein (beta), sy'n wirydd sillafu a gramadeg am ddim gan Brifysgol Bangor.
{{{1}}}
Caneuon
golyguCwestiynau am ganeuon
Pori mae yr asyn ar y porfa fras wedi pori ddigon neu pori digon Pa un sy'n gywir ?
Daw hyfryd fis Cwcw, Cwcw, Cwcw'n canu'n braf neu Gwcw,Gwcw, Gwcw sy'n gywir?
Yr anthem
Tros ryddid collasant neu
Dros ryddid gollasant sy'n gywir?
Allwch chi esbonio pam hefyd os yn bosib.
Diolch yn fawr
Tomos —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan 78.141.10.142 (sgwrs • cyfraniadau) 13:36, 15 Mai 2017
Astudiaeth anifeiliaid
golyguSut mae sillafu'r enw am astudiaeth anifeiliaid yn Gymraeg? Mae Geiriadur y Brifysgol yn cynnig swoleg a sooleg, heb acenion. Yng Ngeiriadur yr Academi ceir söoleg a less correctly sŵoleg. (Mae camgymeriad ar wefan Geiriadur yr Academi yn rhoi sõoleg yn hytrach na söoleg). —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 17:11, 4 Awst 2019 (UTC)