Wicipedia:Eich erthygl gyntaf

Croeso i Wicipedia! Mae'r dudalen hon yn ganllaw i'r hyn y dylech ei wybod cyn creu'ch erthygl wyddoniadurol gyntaf. Eglurir yr hyn y dylech ei wneud a pheidio gwneud, ac wedyn eglurir sut mae creu erthygl. Dyma rai awgrymiadau i'ch cychwyn arni:

  1. Awgrymwn eich bod yn cofrestru cyn creu erthygl newydd. Gall chwilio am destun i sgwennu amdano yn yr adran Erthyglau a geisir.
  2. Rhowch gynnig ar olygu neu wella erthyglau sydd eisoes yn bod i ymgyfarwyddo ag arddull Wicipedia. Glynnwch at yr arddull arferol.
  3. Chwiliwch Wicipedia yn gyntaf i wneud yn siŵr nad yw'r erthygl yn bodoli'n barod, efallai dan deitl arall, gwahanol. Os yw'r erthygl yn bodoli'n barod, gallwch ei ehangu, ei chywiro neu ei gwella.
  4. Defnyddiwch gyfeiriadau i ffynonellau dibynadwy, er mwyn dangos bod y testun yn un addas a phwysig; ceir polisi beth sy'n amlwg a beth sy'dd ddim yn dderbyniol ar Wicipedia. Mae angen ffynonellau dibynadwy arnom os yw'r erthygl am barhau ar wici. Yn bwysicach na dim, dylid cymryd gofal ffynonellau cadarn gan bobl fyw - yn wir, dilëir erthyglau sydd heb ffynonellau, fel arfer.
  5. Ystyriwch ofyn am gymorth neu adborth. Gallwch ofyn am adborth ynghylch erthyglau yr ydych am eu creu mewn nifer o lefydd, gan gynnwys y dudalen sgwrs yr erthygl.
  6. Ystyriwch greu'r erthygl yn eich tudalen defnyddiwr yn gyntaf, neu eich pwll tywod. Fel defnyddiwr cofrestredig, mae gennych dudalen defnyddiwr eich hunan. Cymryd eich amser i weithio ar un erthygl, gofynwch i olygyddion eraill hefyd i weithio arno, a'i symud i'r Wicipedia "byw" unwaith mae'n barod. Pan fydd yr erthygl yn barod i'w "chyhoeddi", gallwch ei symud i'r prif Wicipedia.
Cofiwch y caiff yr erthygl a grëir gennych ei dileu'n gyflym os nad yw'n dderbyniol. Mae'r gweinyddwyr yn edrych ar erthyglau sydd newydd gael eu creu.
Peidiwch â chreu tudalennau amdanoch chi eich hunan, eich cwmni, eich band, neu dudalennau sy'n hysbysebu], neu draethodau personol neu erthyglau sy'n anaddas mewn gwyddoniadur.
  • Gan bwyll gyda'r canlynol: copïo testun o wefanau eraill, cynnwys dadleuol, erthyglau byr ac erthyglau o ddiddordeb lleol yn unig.

Y lleiafwswm

golygu

Dylai pob erthygl gynnwys:

  • brawddeg gyntaf sy'n crynhoi beth yw'r gwrthrych ee 'Pentref yn Sir Ddinbych yw Llanbedr.' Sylwer fod enw'r testun (teitl yr erthygl) mewn ffont trwm. Ceir rhestr rhagor am godio syml yma.
  • lleiafswm o ddwy baragraff a gwybodlen
  • cyfeiriadau i ffynonellau dibynadwy
  • dolenau i erthyglau eraill
  • categoriau. Edrychwch ar erthygl debyg, arall. Defnyddiwch y categoriau fel model, gan eu newid ar gyfer eich testun chi.
  NODES
os 7