William A. Wellman

cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr ffilm ac actor a aned yn Brookline yn 1896

Cyfarwyddwr ffilm o'r Unol Daleithiau oedd William Augustus Wellman (29 Chwefror 18969 Rhagfyr 1975).[1]

William A. Wellman
William A. Wellman yn Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (1917).
GanwydWilliam Augustus Wellman Edit this on Wikidata
29 Chwefror 1896 Edit this on Wikidata
Brookline Edit this on Wikidata
Bu farw9 Rhagfyr 1975 Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfarwyddwr ffilm, actor, sgriptiwr, hedfanwr, cyfarwyddwr Edit this on Wikidata
TadArthur Gouverneur Wellman Edit this on Wikidata
MamCecila McCarthy Edit this on Wikidata
PriodHelene Chadwick, Dorothy Rae Coonan, Marjorie Crawford Edit this on Wikidata
PlantWilliam Wellman, Jr. Edit this on Wikidata
Gwobr/auAcademy Award for Best Story, Gwobr y Bwrdd Adolygu Cenedlaethol am y Ffilm Orau, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed ef yn Brookline, Massachusetts, Unol Daleithiau America. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gwirfoddolodd i yrru ambiwlansys yn Ffrainc, a gwasanaethodd yn Lleng Dramor Ffrainc cyn hedfan awyrennau ymladd yn Escradille de La Fayette, criw o beilotiaid Americanaidd yn lluoedd Ffrainc. Ymunodd â Chorfflu Awyr Byddin yr Unol Daleithiau a bu'n hyfforddwr hedfan yn San Diego. Wedi'r rhyfel, aeth i Hollywood a chafodd swydd yn Goldwyn Pictures gyda chymorth Douglas Fairbanks, Sr.

Cyfarwyddodd Wellman y ffilm ryfel Wings (1927), y ffilm gyntaf i ennill Gwobr yr Academi am y Llun Orau. Ymhlith ei weithiau eraill mae'r ffilm gangster The Public Enemy (1931), yn serennu James Cagney; The Call of the Wild (1935), addasiad o'r nofel gan Jack London, gyda Clark Gable; y ddrama ramantaidd A Star Is Born (1937); Nothing Sacred (1937), esiampl o genre'r gomedi screwball gyda Carole Lombard; The Ox-Bow Incident (1943), addasiad o'r nofel gan Walter Van Tilburg Clark gyda Henry Fonda; y ffilm fywgraffyddol Buffalo Bill (1944); The Story of G.I. Joe (1945) gyda Robert Mitchum yn portreadu capten troedfilwyr yn yr Ail Ryfel Byd; Yellow Sky (1948), ffilm yn genre'r Gorllewin Gwyllt gyda Gregory Peck a Richard Widmark; a'r ffilm drychineb The High and the Mighty (1954) gyda John Wayne.

Bu farw William A. Wellman yn Los Angeles, Califfornia, yn 79 oed.

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) William Wellman. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2021.
  NODES