Llifogydd anferth a anfonir gan Dduw i foddi'r ddynoliaeth yn gosb am eu pechod yw Y Dilyw. Ceir ei hanes yn Llyfr Genesis yn yr Hen Destament, y Torah Iddewig a'r Coran. Mae'n perthyn i draddodiadau tebyg a geir mewn sawl diwylliant. Yn chwedl Feiblaidd Y Dilyw (Gen. 6-9), mae Duw yn gorchymyn i Noa adeiladu'r Arch i achub ef a'i dri mab, sef Sem, Ham a Jaffeth (tad Gomer) a'u gwragedd, a deuryw anifeiliaid y byd gyda nhw, rhag y Dilyw. Credir fod y chwedl o darddiad Babilonaidd ; ceir chwedl am yr arwr Utnapishtim a'r Dilyw a anfonir gan y duwiau i foddi Mesopotamia yn rhan o'r cylch o gerddi am Gilgamesh.

Yr anifeiliaid yn mynd i mewn i'r Arch fesul dau; paentiad gan Francesco Bassano, 1715

Yn y chwedl, mae Duw yn penderfynu arllwys y dyfroedd uwchben y ffurfafen ar y Ddaear i'w boddi. Ar orchymyn Duw mae Noa yn adeiladu'r Arch. Disgrifir Arch Noa (Gen 6:14-16) fel ystordy enfawr a fedrai nofio, er na ddywedir yn benodol bod y gwaelod ar ffurf llong. Roedd yn 300 cufydd (525 troedfedd) o hyd, 50 cufydd (87.5 troedfedd) o led, a 30 cufydd (52.5 troedfedd) o uchter. Ei defnydd oedd "pren goffer" (sydd a'i ystyr yn ansicr), wedi ei orchuddio oddi fewn ac oddi allan â phyg, yn ôl yr afer gyda llongau afon Ewffrates. Rhennid hi yn ystafelloedd (yn llythrennol, "nythod"), ac yr oedd iddi dri llawr, gyda ffenestri o dan y to ar bob ochr, a drws yn ei hystlys.

Noa yn gollwng y Golomen

Mae'r glaw yn disgyn yn ddibaid a'r dyfroedd yn codi. Cludir yr Arch ar wyneb y Dylif. Ar ôl i'r dyfroedd ddechrau fynd yn is a phen ambell mynydd uchel ddod i'r golwg, mae Noa yn penderfynu anfon brân i weld os oedd yn ddiogel iddo ef a'i deulu lanio, ond daw'r frân yn ôl heb ddarganfod digon o dir sych. Mae Noa yn aros am saith niwrnod ac yn anfon aderyn arall, colomen y tro yma, ond dychwelodd yntau. Saith niwrnod yn nes ymlaen mae'n anfon y golomen unwaith eto ac y tro yma mae'r aderyn yn dychwelyd gyda changen olewydden yn ei big, symbol o heddwch rhwng Duw a'r ddynoliaeth. Saith niwrnod ar ôl hynny mae Noa yn gollwng y golomen eto ond y tro yma dydi hi ddim yn dychwelyd, arwydd ei bod yn ddiogel iddynt lanio ar y tir.

Pan ddaeth yr arch i orffwys ar dir sych eto - ar Ararat - adeiladodd Noa allor ac offrymodd i Dduw. Gwnaeth Duw gyfamod ag ef, a gynrychiolir gan yr enfys (Gen 9:9-17). Am fod y arch wedi arnofio'n ddiogel ar wyneb dyfroedd y Dilyw, mae'n symbol o'r Eglwys.

Mae hanes y Dilyw wedi ysbrydoli sawl artist dros y canrifoedd, yn Ewrop a'r byd Islamaidd.

Cyfeiriadau

golygu
  • J. C. J. Metford, Dictionary of Christian lore and legend (Thames & Hudson, 1983), d.g. Flood.
  • Thomas Rees ac eraill (gol.), Geiriadur Beiblaidd (Wrecsam, 1926), Cyfrol I, d.g. Arch Noa, Dilyw.

Gweler hefyd

golygu
  NODES