Zosimus
Hanesydd Groeg (fl. 5fed ganrif) oedd yn swyddog uchel yn y wladwriaeth yng Nghaergystennin yn ail hanner y 5fed ganrif.
Zosimus | |
---|---|
Ganwyd | c. 460 |
Bu farw | c. 520 |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Fysantaidd |
Galwedigaeth | hanesydd, llenor |
Blodeuodd | 500s |
Adnabyddus am | Historia Nova |
Mae'n awdur llyfr hanes ar Gwymp yr Ymerodraeth Rufeinig a nodweddir gan safbwynt rhyddfrydig ac amgyffred ddeallus. Un o'i ffynonellau oedd gwaith coll Eunapius.
Mae'n llyfr mewn chwech rhan:
- (i) Y cyfnod rhwng teyrnasiad Augustus a theyrnasiad Diocletian.
- (ii-iv) Y cyfnod hyd at ymraniad yr ymerodraeth gan Theodosius Fawr.
- (v-vi) Astudiaeth fanwl o'r cyfnod 395-410.
Ymddengys na chafodd Zosimus yr amser i orffen y gwaith, oedd yn fod i gynnwys digwyddiadau ei oes ei hun.
Mae Zosimus yn rhoi'r bai am gwymp yr ymerodraeth ar ddymchwel y grefydd baganaidd a mabwysiadu Cristionogaeth fel unig grefydd swyddogol yr ymerodraeth. Mae'n barnu'r ymerodr Cystennin yn hallt.