Geraint fab Erbin

gan fardd dienw

Rac gereint gelin kystut.
y gueleis e meirch can crimrut.
A gwidy gaur garv achlut.
Rac Gereint gelin dihad.
gueleis e meirch crimrut o kad.
A guydi gaur garu puyllad.
Rac gereint gelin ormes.
gueleis meirch can eu cress.
A guydi gaur garv achles.
En llogborth y gueleis vitheint.
a geloraur mvy no meint.
a guir rut rac ruthir gereint.
En llogborth y gueleis e giminad.
guir igrid a guaed am iad.
rac gereint vaur mab y tad.
En llogporth gueles e gottoev.
a guir ny gilint rac gvaev.
ac yved gvin o guydir gloev.
En llogporth y gueleis e arwev
guir. a guyar in dinev.
a gvydi gaur garv atnev.
En llogporth ygueleis e. y Arthur
guir deur kymynint a dur.
ameraudur llywiaudir llawr.
En llogporth y llas y gereint.
guir. deur o odir diwneint.
a chin rillethid ve. llatysseint.
Oet re rereint dan vortuid gereint
garhirion graun guenith.
Rution ruthir eririon blith.
Oet re rerent dan vortuid gereint.
garhirion graun ae bv.
Rution ruthir eriron dv.
Oet re rereint dan mortuid gereint
garhirion graun boloch.
Rution ruthir eriron coch.
Oet re rereint dan mortuid gereint
garhirion graun wehin.
Rution ruthir eririon gvinn.
Oet re rereint dan vortuid gereint.
garhirion grat hit.
turuf goteith ar diffeith mynit.
Oet re rereint. dan vortuid gereint
garhirion gran anchvant.
Blaur blaen eu raun in ariant.
Oet rerereint dan mortuid. gereint
garhirion. graun adas.
Rution ruthir eryrion glas.
Oet re rereint dan mortuid gereint.
garhirion graun eu buyd.


Ffynhonnell: Llyfr Du Caerfyrddin
  NODES