Yn y byd telegyfathrebu, 4G ydy'r bedwaredd genhedlaeth o ran technoleg ffonau symudol. Mae'n dilyn y safon 3G ac yn darparu system band llydan iawn, symudol (mobile ultra-broadband) i fynd ar y we. Credir y bydd y band llydan mor gyflym y bydd yn trawsnewid y ffordd mae pobl yn siopa ac yn byw o ddydd i ddydd gan gyflymu'r profiad o deithio ar y we hyd at ffactor o tua 5. Bydd y dyfeisiadau megis gliniaduron, ar gysylltiad di-wifr (wi-fi), yr iPad a ffonau llaw yn medru defnyddio meddalwedd "byw" e.e. cynadledda fideo o safon llawer gwell, teledu 3D, teledu ar ffonau llaw a chyfrifiaduro ar y Cwmwl.[1]

4G
Enghraifft o'r canlynolmobile phone generation Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd gan3.9G Edit this on Wikidata
Olynwyd gan5G Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Modem sengl LTE gan Samsung, yn gweithredu at rwydwaith 4G masnachol cyntaf gan Tella.

Cyfeiriasdau

golygu
  1. Vilches, J. (29 Ebrill 2009). Everything you need to know about 4G Wireless Technology. TechSpot.
  NODES