Abcasiaid
Cenedl a grŵp ethnig yng ngorllewin y Cawcasws yw'r Abcasiaid[1] sydd yn frodorol i ardal Abchasia ar lannau'r Môr Du. Amcangyfrifwyd yn 2015 taw 200,000–600,000 o Abcasiaid sydd, a thrigasant 150,000–200,000 ohonynt yn eu mamwlad. Abchaseg yw'r iaith frodorol, ac mae nifer ohonynt hefyd yn siarad Georgeg, Rwseg, neu Dyrceg. O ran crefydd, Mwslimiaid Swnni (defod Hanafi) yw'r mwyafrif, a lleiafrifoedd yn arddel Cristnogaeth Uniongred Dwyreiniol (yr Eglwys Uniongred Abcasaidd) neu neo-baganiaeth ar sail crefydd yr hen Abcasiaid.
Gorymdaith o Abcasiaid yn chwifio'u baner genedlaethol. | |
Enghraifft o'r canlynol | pobl, grŵp ethnig |
---|---|
Mamiaith | Abchaseg |
Label brodorol | аҧсуаа |
Poblogaeth | 185,000 |
Crefydd | Eglwysi uniongred, swnni, abkhaz neopaganism |
Rhan o | ieithoedd Gogledd-orllewin y Cawcasws |
Yn cynnwys | Apsua |
Enw brodorol | аҧсуаа |
Gwladwriaeth | Twrci, Moscfa, Crai Krasnodar, Oblast Rostov, St Petersburg, Adygea, Karachay-Cherkessia, Syria, De Osetia, Ajaria, Tbilisi, Samegrelo-Zemo Svaneti, Wcráin, Gwlad Iorddonen, Libanus, Yr Aifft, Unol Daleithiau America, Abchasia, Georgia, yr Almaen, Abchasia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gellir olrhain bodolaeth y genedl Abcasaidd yn ôl i'r Henfyd. Trodd y mwyafrif o Abcasiaid yn Gristnogion erbyn y 4g. Sefydlwyd gwladwriaeth annibynnol ganddynt yn 740. Daeth Abcasia dan reolaeth y Georgiaid yn 1008, ac yn brotectoriaeth i Ymerodraeth yr Otomaniaid yn 1578, ac wedi hynny trodd y mwyafrif o Abcasiaid yn Fwslimiaid. Daeth Abcasia dan reolaeth Ymerodraeth Rwsia yn 1810, ac yn rhan o Ymerodraeth Rwsia yn 1864 yn sgil trechiad Tywysog Abcasia yn Rhyfeloedd y Cawcasws. Yn y cyfnod rhwng gwrthryfel 1866 a 1878, ymfudodd mwy na 70,000 o Abcasiaid i Dwrci. Yn ystod Chwyldro Rwsia, datganwyd annibyniaeth yr Abcasiaid ond cafodd ei hymgorffori'n rhan o Georgia, a ymunodd yn ddiweddarach â'r Undeb Sofietaidd. Dan lywodraeth Joseff Stalin, cafodd sawl cenedl gyfan yn yr Undeb Sofietaidd ei chaethgludo i ran arall o'r wlad. Gwnaed cynllun o'r fath ar gyfer yr Abcasiaid, ond bu farw Stalin cyn iddo gael ei weithredu. Fel rhan o Weriniaeth Sofietaidd Sosialaidd Georgia, ymsefydlodd nifer o Georgiaid yn Abcasia ac erbyn 1950 bu'r Abcasiaid yn lleiafrif yn eu mamwlad. Bu rhyfela rhwng yr Abcasiaid a'r Georgiaid yn sgil cwymp yr Undeb Sofietaidd, a datganwyd annibyniaeth Gweriniaeth Abcasia yn 1992. Dim ond ychydig o wladwriaethau sydd yn cydnabod bodolaeth Gweriniaeth Abcasia, ac mae'r mwyafrif helaeth o wledydd a chyrff rhyngwladol yn ystyried Abcasia yn diriogaeth i Georgia.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Geiriadur yr Academi, "Abkhaz".
- ↑ James B. Minahan. Encyclopedia of Stateless Nations (Santa Barbara: Greenwood, 2016), t. 3–4.