Adeilad rhestredig
Mae adeilad rhestredig yn adeilad yng ngwledydd Prydain neu ogledd Iwerddon sydd ar gofrestr statudol o adeiladau sydd o ddiddordeb arbennig neu hanesyddol. Ceir tua hanner miliwn o adeiladau wedi'u rhoi ar restrau sawl corff: Cadw yng Nghymru, Historic Scotland, English Heritage a NIEA (Asiantaeth Amgylchedd Gogledd Iwerddon).
Enghraifft o'r canlynol | cofrestr diwylliannol |
---|---|
Math | safle treftadaeth yn y Deyrnas Unedig, adeilad |
Yn cynnwys | adeilad rhestredig Gradd I, adeilad rhestredig Gradd II*, adeilad rhestredig Gradd II, Grade A listed building, Grade B listed building, Grade B+ listed building, Grade B1 listed building, Grade B2 listed building |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Defnyddir y term hefyd yng Ngweriniaeth Iwerddon, gyda National Inventory of Architectural Heritage yn gyfrifol am y cofrestru. Y term swyddogol yno yw "strwythur wedi'i warchod".[1]
Ni chaniateir dymchwel adeilad cofrestredig, na'i ehangu neu ei addasu heb ganiatâd arbennig gan yr awdurdod cynllunio lleol, sydd yn ei dro'n ymgynghori gydag asiantaeth y llywodraeth ganolog perthnasol (ee Cyfoeth Naturiol Cymru neu Cadw), yn enwedig gydag adeiladau o nod (Gradd 1 neu 1*). Gellir gwneud eithriad o adeiladau crefyddol lle'i defnyddir heddiw i addoli, ond dim ond yn yr achosion hynny ble ceir gweithdrefnau caniatâd wedi'u cymeradwyo.
Ar adegau gorfodir perchnogion i gynnal a chadw'r adeilad neu ei drwsio, a gallant gael eu herlyn os na wnânt hynny, neu pe baent yn newid yr adeilad mewn unrhyw fodd, heb y caniatâd priodol. Mae'r gyfraith yn caniatau tynnu adeilad o'r rhestr os profir ei fod yno drwy gangymeriad.[2]
Categoriau
golyguCeir tri math o gategoriau neu ddosbarth o adeiladau yng Nghymru a Lloegr:[3]
- Gradd I: adeiladau o ddiddordeb arbennig,
- Gradd II*: adeiladau pwysig sydd o ddiddordeb uwch na'r cyffredin,
- Gradd II: adeiladau sydd o ddiddordeb arbennig.[4]
Arferid cael dosbarth anstatudol sef Gradd III, a ddaeth i ben ym 1970.[5] Rhennid adeiladau crefyddol Eglwys Loegr i Raddau A, B ac C cyn 1977 ac mae llond dwrn ohonyn nhw'n parhau gyda'r hen drefn.
Yn Lloegr, mae tua 2% o holl adeiladau'r wlad wedi eu cofrestru.[6] Ym Mawrth 2010, roedd oddeutu 374,000 ar y gofrestr[7]: tua 92% wyn Radd II, 5.5% yn Radd II*, a 2.5% yn Radd I.[8]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Buildings of Ireland". Cyrchwyd 14 August 2012.
- ↑ "Listing FAQs". English Heritage. Cyrchwyd 24 Mai 2011.
- ↑ "Principles of Selection for Listing Buildings" (PDF). Department of Culture, Media and Sport. Mawrth 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol (.pdf) ar 2012-06-10. Cyrchwyd 24 Mai 2011. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help) - ↑ "Adeiladau rhestredig". English Heritage. Cyrchwyd 24 Mai 2011.
- ↑ "About Listed Buildings". heritage.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2005-10-26. Cyrchwyd 2013-11-12.
- ↑ "Heritage at Risk Report" (.pdf). English Heritage. Gorffennaf 2010. Cyrchwyd 6 Mehefin 2011.
- ↑ "Listing Buildings". Department of Culture, Media and Sport. Cyrchwyd 6 June 2011.
- ↑ "Listed Buildings". English Heritage. Cyrchwyd 7 Mehefin 2011.