Is-genre ffantasïol o fewn gwyddonias yw agerstalwm, lle mae technoleg a dyfeisiadau esthetig wedi'u hysbrydoli gan beiriannau stêm diwydiannol o'r 19g.

Agerstalwm
Enghraifft o'r canlynolgenre gwyddonias, cyberpunk derivative form Edit this on Wikidata
Mathretrofuturism, ffantasi gwyddonol, ffuglen Edit this on Wikidata
GenreClockwork Planet Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Dillad, dyfeisiadau nodweddiadol o un o gymeriadau Agerstalwm

Er bod tarddiad llenyddol y math yma o lenyddiaeth weithiau'n gysylltiedig â'r genre cyberpunk, mae gweithiau agerstalwm yn aml yn cael eu gosod mewn hanes amgen yng nghyfnod oes Fictoria, yn benodol - yng "Ngorllewin Gwyllt Americanaidd" y dyfodol, lle gosodir pŵer stêm fel norm, yn brif ffrwd. Ar adegau eraill, fe'i lleolir mewn byd ffantasi sy'n defnyddio ynni stêm. Fodd bynnag, mae steampunk a neo-Fictoraidd yn wahanol gan nad yw'r mudiad neo-Fictoraidd yn allosod ar dechnoleg tra bod technoleg yn agwedd allweddol ar steampunk gan nad yw technoleg yn gwbwl angenrheidiol o fewn yr arddull neo-Fictoraidd.[1][2][3][4]

Efallai mai'r nodwedd amlycaf o'r genre yma yw technoleg a dyfeisiadau anacronistaidd (nad oedd ar gael yn y cyfnod dan sylw) a gellir galw'r rhain yn retro-ddyfodol: dyfeisiadau a thechnoleg y gallai pobl yn y 19g fod wedi breuddwydio amdanynt. Gall y mathau o beiriannau, technoleg a dyfeisiadau gynnwys rhai o fyd ffuglen, fel y rhai a ddisgrifir yng ngwaith H. G. Wells a Jules Verne, neu'r awduron modern: Philip Pullman, Scott Westerfeld, Stephen Hunt, a China Miéville.

Ffotograff o olygfa nodweddiadol o'r is-genre yma
"Maison tournante aérienne" gan Albert Robida ar gyfer ei lyfr Le Vingtième Siècle

Rhagflaenwyr

golygu

Fel y dywedwyd, dylanwadwyd yn drwm ar y genre hwn, yr arddull ffug-19g, gan nofelau 'gwyddonol' Jules Verne a H. G. Wells, ond hefyd gan Mary Shelley, ac Edward S. Ellis a'i nofel The Steam Man of the Prairies (1868). Cynhyrchwyd nifer o weithiau celf a ffuglen mwy modern sy'n arwyddocaol yn natblygiad y genre hon, cyn i'r genre gael enw. Caiff Titus Alone (1959), gan Mervyn Peake, ei hystyried gan ysgolheigion fel y nofel gyntaf.[5][6][7] Mae beirniaid llenyddol eraill yn nodi fod The Warlord of the Air (1971) gan Michael Moorcock yn haeddu'r lle hwnnw.[8][9][10]

Carreg filltir bwysig arall yn natblygiad cynnar y math hwn o ffuglen wyddonias yw'r ffilm Brazil (1985) a ddylanwadodd yn fawr ar ffilmiau eraill, gan gadarnhau estheteg a ffiniau'r genere. Cafwyd comic yn nechrau'r 1970au a oedd hefyd yn hynod o bwysig yn cadarnhau'r genre, sef The Adventures of Luther Arkwright gan Bryan Talbot.

Geirdarddiad

golygu

Prin yw'r enghreifftiau o'r math hwn o ysgrifennu yn y Gymraeg. Cyhoeddwyd yn 2019 y nofel Babel Archifwyd 2019-08-09 yn y Peiriant Wayback gan Ifan Morgan Jones a ddisgrifiai ei hun fel y nofel "gyntaf yn y Gymraeg o fewn y genre Agerstalwm".[11] Bathwyd y term "Agerstalwm" gan Llinos Mair.[12] Mae'n derm sy'n chwarae ar fathiad arall, sef Strydoedd Aberstalwm, cân gan Alun 'Sbardun' Huws ac a boblogeiddiwyd gan y canwr Bryn Fôn. Mae'n air cyfansawdd: 'Ager' (sef stêm) a 'stalwm' sy'n gywasgiad o 'ers talwm'.

Er bod llawer o weithiau a ystyrir bellach yn arloesol i'r genre wedi'u cyhoeddi yn y 1960au a'r 1970au, yn y Saesneg, dechreuodd y term "steampunk" yn niwedd y 1980au fel amrywiad tafod-i-boch o cyberpunk. Fe'i lluniwyd gan yr awdur ffuglen wyddonol K. W. Jeter, a oedd yn ceisio dod o hyd i derm cyffredinol ar gyfer gwaith gan Tim Powers (The Anubis Gates, 1983), James Blaylock (Homunculus, 1986), ac ef ei hun (Morlock Night, 1979, a Infernal Devices, 1987). Roedd pob un o'r llyfrau yma wedi eu lleoli yn y 19g (Fictoraidd fel arfer) ac a oedd yn dynwared confensiynau ffuglen gwirioneddol H. G. Wells The Time Machine ac eraill.

Rhai gweithiau a ragflaenodd y genre hon

golygu

Awduron llyfrau cynnar

golygu

Ffilmiau cynnar

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Definition of steampunk". Oxford University Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-07-18. Cyrchwyd 6 Hydref 2012.
  2. Latham, Rob (2014). The Oxford Handbook of Science Fiction. t. 439. ISBN 9780199838844.
  3. Seed, David (2007). A Companion to Science Fiction (yn Saesneg). Oxford: John Wiley & Sons. t. 217. ISBN 9781405144582. Cyrchwyd 6 Mawrth 2017.
  4. Nally, Claire (2016). "Expert Comment: Steampunk, Neo-Victorianism, and the Fantastic". Northumbria University, Newcastle's Newsroom.
  5. Oliveira, Camilla (2015-11-02). "Steampunk: The Movement and the Art". Wall Street International - Culture Section.
  6. Peake, Mervyn (2011). The Illustrated Gormenghast Trilogy (arg. New). London: Vintage. ISBN 978-0099528548.
  7. Daniel, Lucy (2007). Defining Moments In Books: The Greatest Books, Writers, Characters, Passages And Events That Shook The Literary World. New York: Cassell llustrated. t. 439. ISBN 978-1844036059.
  8. Bluestocking (21 Mehefin 2017). "Steampunk Dollhouse: Islands in the Time Streams or How a Privileged White Edwardian Man Had His Eyes Opened Rather Forcefully".
  9. Hari Kunzru (2 Chwefror 2011). "When Hari Kunzru Met Michael Moorcock". The Guardian. Cyrchwyd 10 Medi 2016.
  10. Peter Bebergal (26 Awst 2007). "The age of steampunk". The Boston Globe. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Ebrill 2008. Cyrchwyd 10 Mai 2008.
  11. Ifan Morgan Jones (2019). Babel. Y Lolfa.
  12. Celtes (2015-09-16). "@ifanmj Agerstalwm?". @Celtes_Cymru. Cyrchwyd 2019-06-21.
  13. 13.0 13.1 13.2 13.3 13.4 John Clute a John Grant, The Encyclopedia of Fantasy (Orbit, 1997), s.v. "Steampunk"
  14. Gareth Branwyn (18 Mehefin 2007). "Steam-Driven Dreams: The Wondrously Whimsical World of Steampunk". Wired.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Tachwedd 2012. Cyrchwyd 2 Ionawr 2011. While the world of H.P. Lovecraft's horror is not exactly the same as that envisioned in steampunk, there's plenty of leakage between the two...
  15. Jonathan Strickland. "Famous Steampunk Works". HowStuffWorks. Cyrchwyd 18 Mai 2008.
  16. 16.0 16.1 16.2 Ottens, Nick (2008). "The darker, dirtier side". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Gorffennaf 2011. Cyrchwyd 18 Mai 2008.
  17. 17.0 17.1 17.2 17.3 17.4 "Features: Steaming Celluloid". Matrix Online. 30 Mehefin 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Chwefror 2009. Cyrchwyd 13 Chwefror 2009.
  NODES
Done 1
eth 5
News 1
punk 15
see 1