Alexander McQueen

Dylunydd ffasiwn o Loegr oedd Alexander McQueen CBE (ganwyd Lee Alexander McQueen; 17 Mawrth 196911 Chwefror 2010),[1] a fu'n adnabyddus am ei dactegau sioc anghonfensiynol. Gweithiodd McQueen fel prif ddylunydd Givenchy am bum mlynedd cyn sefydlu labeli Alexander McQueen a McQ. Cafodd duluniadau dramatig McQueen eu gwisgo gan enwogion gan gynnwys Rihanna, Björk a Lady Gaga, a cawsont eu cymeradwyo. Enillodd wobr Dylunydd Ffasiwn Prydeinig y Flwyddyn bedair gwaith.

Alexander McQueen
Ganwyd17 Mawrth 1969 Edit this on Wikidata
Lewisham Edit this on Wikidata
Bu farw11 Chwefror 2010 Edit this on Wikidata
Mayfair Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Central Saint Martins
  • Rokeby School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcynllunydd, dylunydd ffasiwn, arlunydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Alexander McQueen
  • Gieves & Hawkes
  • Givenchy
  • Gucci Edit this on Wikidata
Adnabyddus amNo. 13 Climax, Dante Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE, The Fashion Awards, The Fashion Awards, The Fashion Awards, The Fashion Awards Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.alexandermcqueen.com Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

golygu

Ganwyd yn Hackney, Llundain, yn fab i yrrwr tacsi a'r ifengaf o chwech o blant.[2] Dechreuodd McQueen wneud ffrogiau ar gyfer ei chwiorydd pan oedd yn ifanc gan ddatgan y bu'n bwriadu dod yn ddylunydd ffasiwn.[3] Dywedodd mai un o'i atgofion cynharaf oedd pan ddarluniodd ffrog ar wal pan oedd yn dri oed, lle roedd y papur wal wedi dod i ffwrdd yn y tŷ cyngor lle roedd y teulu'n byw.[4]

Mynychodd McQueen Ysgol Rokeby a gadawodd gydag ond Lefel O mewn celf, a gadawodd yr ysgol yn 16 oed, cyn gwneud prentisiaeth ar gyfer y teilwyr Savile Row Anderson & Sheppard. Wedi hynnu ymunodd â Gieves & Hawkes ac yn ddiweddarach y gwneuthurwyr gwisgoedd theatrig Angels and Bermans.[5]

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Alexander McQueen, UK fashion designer, found dead. BBC (11 Chwefror 2010).
  2.  Obituary: Fashion king Alexander McQueen. BBC (11 Chwefror 2010).
  3.  Maysa Rawi (11 Chwefror 2010). A life in fashion: How Alexander McQueen became 'the most influential designer of his generation'. The Daily Mail.
  4.  Alexander McQueen Obituary. The Times. Adalwyd ar 11 Chwefror 2010.
  5.  Mark =Tran (11 Chwefror 2010). Fashion designer Alexander McQueen dies. The Guardian. Adalwyd ar 11 Chwefror 2010.

Dolenni allanol

golygu
   Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  NODES