Ali al-Rida
Ali ibn Musa al-Rida (Arabeg: علي بن موسى الرضا) (neu Ali al-Rada) (tua 1 Ionawr, 765 - 26 Mai, 818) oedd seithfed ddisgynnydd y Proffwyd Muhammad a'r wythfed Imam Shia. Ei enw genedigol oedd Ali ibn Musa ibna Ja'far. Yn yr iaith Berseg fe'i adnabyddir fel yr Imam Reza. Cafodd ei eni yn nhŷ'r seithfed Imam Shia, Musa al-Kazim, ym Medina (Saudi Arabia heddiw).
Ali al-Rida | |
---|---|
Ganwyd | 12 Ebrill 770 Medina |
Bu farw | 5 Medi 818 Tus |
Dinasyddiaeth | Abassiaid |
Galwedigaeth | Imam |
Swydd | Imam of Twelver Shiism |
Adnabyddus am | Al-Risalah al-Dhahabiah, Sahifat al-Ridha |
Tad | Musa al-Kazim |
Mam | Ummul Banīn Najmah |
Priod | Sabīkah Khayzurān |
Plant | Muhammad al-Jawad |
Daeth ei chwaer yn santes. Ceir cysegrfan iddi yn ninas Qom yn Iran sy'n ganolfan pererindod bwysig i Fwslemiaid Shia.