Ana Maria Machado

Awdures o Frasil yw Ana Maria Machado (ganwyd 24 Rhagfyr 1941) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr, arlunydd, nofelydd ac awdur plant. Gyda Lygia Bojunga Nunes a Ruth Rocha, fe'i hadnabyddir fel un o awduron benywaidd mwyaf poblogaidd Brasil. Derbyniodd Fedal Ryngwladol Hans Christian Andersen yn 2000 am ei "chyfraniad parhaol i lenyddiaeth plant".[1][2]

Ana Maria Machado
Ganwyd24 Rhagfyr 1941 Edit this on Wikidata
Rio de Janeiro Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Brasil Brasil
Addysgdoethuriaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Michel Arrivé Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, person dysgedig, arlunydd, nofelydd, awdur plant, llenor Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Archesgobol Gatholig Rio de Janeiro
  • Universidad Federal de Río de Janeiro Edit this on Wikidata
Arddullllenyddiaeth plant Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Hans Christian Andersen, Gwobr y Tywysog Claus, Prêmio Jabuti, Urdd Teilyngdod Diwylliant, Gwobr Machado de Assis Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.anamariamachado.com.br/ Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn ninas Rio de Janeiro ar 24 Rhagfyr 1941.[3][4][5][6][7]

Coleg a gwaith

golygu

Dechreuodd ei gyrfa fel arlunydd yn ninas Rio de Janeiro ac Efrog Newydd. Ar ôl astudio ieithoedd Romáwns, gwnaeth PhD gyda Roland Barthes yn y École pratique des hautes études ym Mharis. Gweithiodd fel newyddiadurwr i'r cylchgrawn Elle ym Mharis a'r BBC yn Llundain. Yn 1979, agorodd y siop lyfrau plant gyntaf ym Mrasil, 'Malasartes'.[3]

Yr awdures

golygu

Gellir darllen ei gwaith ar sawl lefel, fel pob llenyddiaeth fawr. Soniai ei stori Menina Bonita do laço de fita (1986; cyfieithwyd i'r saesneg dan y teitl Nina Bonita: A Story yn 2001, ISBN 978-0916291631) am gwningen ddu a chwningen wen, sy'n priodi ac yn cael swp o lefrod bach o liwiau gwahanol rhwng y ddau sbectrwm gwyn a du, gan gynnwys smotiau, patrymog a llwyd; mae'r grwp yma'n ddelwedd am grwp ethnig yn y byd go-iawn, a phwysigrwydd cyfoeth yr amrywiaeth. Yn ei llyfr Era uma vez um tirano (1982) ceir tri phlentyn sy'n dyffeio'r teyrn lleol sydd wedi gwahardd lliw, meddyliau a hapusrwydd. Heb bwyntio bus at neb, mae Ana Maria Machado yn dweud moeswers am y sefyllfa real, gwleidyddol, ond yn ei wisgo gyda hiwmor, ac yn parchu'r darllenwr i ddarllen rhwng y llinellau, i'r neges real, cyfoes, gwleidyddol.

Mae ei llyfrau'n llawn dychan, a gelwir yr arddull yn "realaeth lledrithiol" (magical realism). Dywedir ei bod yn dilyn arddull awduron megis Jose Bento Monteiro Lobato, a oedd hefyd yn awdur llyfrau plant.[3] Mae ei hiaith yn llawn o eirfa chwareus, arddull sy'n boblogaidd iawn gan blant. Yn História meio ao contrário (1978), mae Ana Maria Machado yn troitrefn arferol y stori dylwyth teg ar ei ben i lawr, drwy ddechrau gyda "ac os na fuont farw, yna mae nhw'n dal i fyw heddiw!" ac yn gorffen gyda'r geiriau traddodiadol, poblogaidd "Un tro..."

Peth llyfryddiaeth

golygu
  • Alice e Ulisses, (novel), 1983
  • Tropical Sol da Liberdade, (novel), 1988
  • Canteiros de Saturno, (novel), 1991
  • Aos Quatro Ventos, (novel), 1993
  • O Mar Nunca Transborda, (novel), 1995
  • A Audácia dessa Mulher, (novel), 1999
  • Esta Força Estranha, (biography), 1998
  • Para Sempre, (novel), 2001

Aelodaeth

golygu

Bu'n aelod o Academia Brasileira de Letras am rai blynyddoedd. [8][9][10][11]

Anrhydeddau

golygu
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Hans Christian Andersen (2000), Gwobr y Tywysog Claus (2010), Prêmio Jabuti (1997), Urdd Teilyngdod Diwylliant (2000), Gwobr Machado de Assis (2001, 2001)[12] .


Cyfeiriadau

golygu
  1. "Hans Christian Andersen Awards". International Board on Books for Young People (IBBY). Retrieved 2013-08-02.
  2. "Ana Maria Machado" (pp. 102–03, by Eva Glistrup).
    The Hans Christian Andersen Awards, 1956–2002. IBBY. Gyldendal. 2002; Austrian Literature Online. Adalwyd 2013-08-02.
  3. 3.0 3.1 3.2 Kline, Julie (2000). "An Interview with Ana Maria Machado". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-06-09. Cyrchwyd 12 Mai 2013.
  4. Cyffredinol: https://catalogue.bnf.fr/ark:/12148/cb12017317w. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  5. Rhyw: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 14 Gorffennaf 2024. https://catalogue.bnf.fr/ark:/12148/cb12017317w. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  6. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 "Ana Maria Machado". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. https://catalogue.bnf.fr/ark:/12148/cb12017317w. dyddiad cyrchiad: 9 Awst 2024.
  7. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 13 Rhagfyr 2014
  8. Alma mater: https://www.sudoc.fr/043831427. Système universitaire de documentation. dyddiad cyrchiad: 9 Awst 2024.
  9. Galwedigaeth: https://catalogue.bnf.fr/ark:/12148/cb12017317w. dyddiad cyrchiad: 9 Awst 2024. "Premio Machado de Assis" (yn Sbaeneg). Cyrchwyd 30 Hydref 2024.
  10. Aelodaeth: https://catalogue.bnf.fr/ark:/12148/cb12017317w. dyddiad cyrchiad: 9 Awst 2024.
  11. Anrhydeddau: "Premio Machado de Assis" (yn Sbaeneg). Cyrchwyd 30 Hydref 2024.
  12. "Premio Machado de Assis" (yn Sbaeneg). Cyrchwyd 30 Hydref 2024.
  NODES
INTERN 1