Tref a chymuned (comune) a safle hen ddinas Rufeinig yng ngogledd-ddwyrain yr Eidal yw Aquileia (Friwleg: Acuilee, Slofeneg: Oglej). Saif yn nhalaith Udine a rhanbarth Friuli-Venezia Giulia. Saif tua 6 km o'r Môr Adriatig, ar afon Natisone. Roedd y boblogaeth yn 2004 yn 3,491.

Aquileia
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth3,128 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iPiran Edit this on Wikidata
NawddsantHermagoras and Fortunatus Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirEndid datganoli rhanbarthol Udine Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Arwynebedd37.44 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr5 ±1 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaFiumicello Villa Vicentina, Grado, Terzo d'Aquileia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau45.77°N 13.37°E Edit this on Wikidata
Cod post33051 Edit this on Wikidata
Map
Fforwm Aquileia

Sefydlwyd Aquileia yn y flwyddyn 181 CC, a daeth yn ganolfan bwysig, gyda nifer o ffyrdd yn arwain i ogledd-ddwyrain yr ymerodraeth. Roedd y 4g OC yn gyfnod arbennig o lewyrchus i'r ddinas, a daeth yn ganolfan eglwysig bwysig, gyda'r esgob yn dwyn y teitl "Patriarch". Yn 452, anrheithiwyd y ddinas gan Attila.

  NODES
Done 1
eth 9